Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011
Derbyniodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 gydsyniad brenhinol ar 9fed Chwefror 2011, gan roi statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru, a gosodwyd cyd-destun cyfreithiol newydd ar gyfer yr iaith yn sgil hynny.
Ynghyd ag atgyfnerthu’r egwyddor na ddylai’r Gymraeg gael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru, creodd Mesur 2011 fframwaith deddfwriaethol newydd ar gyfer gosod dyletswyddau cyfreithiol penodol ar gyrff cyhoeddus mewn perthynas â’r Gymraeg.
Canlyniad hyn oedd datblygu trefn newydd, sy’n gorfodi sefydliadau cyhoeddus i weithredu’n unol â chyfres o Safonau statudol gosodedig: bydd y meincnodau penodol hyn yn siapio’r modd y bydd cyrff yn darparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg ar gyfer y cyhoedd yn y dyfodol.
Bydd y drefn newydd hon yn dod yn weithredol ar gyfer y Bwrdd Iechyd yn ystod 2019 (gan ddisodli llawer o ddarpariaethau Deddf yr Iaith Gymraeg 1993).
Safonau’r Gymraeg
Mae Safonau'r Gymraeg yn set o ofynion statudol sy'n berthnasol i'r Bwrdd Iechyd. Maent yn nodi yn glir ein cyfrifoldebau i ddarparu gwasanaethau dwyieithog rhagorol i gleifion a'r cyhoedd.
Mae 121 o Safonau i gyd sydd wedi'u rhannu i 4 prif faes cydymffurfio.
Safon Cyflenwi Gwasanaethau
Safonau yw'r rhain sy'n nodi'r gofynion penodol ar y Bwrdd Iechyd wrth ymdrin â'r cyhoedd. Gan gynnwys sut yr ydym yn delio â gohebiaeth, galwadau ffôn, cyfarfodydd, digwyddiadau a sianeli cyfathrebu allanol.
Safonau Llunio Polisi
Mae'r rhain yn nodi pa safonau y dylem ystyried wrth ddatblyu unrhyw bolisi, protocol neu gynllun newydd.
Safonau Gweithredu
Mae'r rhain yn nodi sut rydym ni'n defnyddio'r Gymraeg o fewn prosesau mewnol.
Safonau Cadw Cofnodion
Mae'r rhain yn ymwneud â chadw tystiolaeth o'n cydymffurfiaeth â'r Safonau.
Mae pawb sy'n gweithio i'r Bwrdd Iechyd yn gyfrifol am gydymffurfio gyda'r safonau. Ceir amlinelliad o'r holl safonau sy'n berthnasol i'r Bwrdd Iechyd yn y Ddogfen Safonau isod.
Hysbysiad Cydymffurfio’r Bwrdd Iechyd
Dogfen Safonau'r Gymraeg Ionawr 2019
Adroddiadau Blynyddol
Cymeradwywyd Adroddiad Monitro Blynyddol Gwasanaethau Cymraeg gan y Bwrdd Iechyd yn ei gyfarfod ar y 26ain o Fedi 2024.
Cynllun 5 mlynedd mewn perthynas â Safon 110 o Safonau’r Gymraeg
Mae’r Bwrdd Iechyd wedi cyhoeddi Cynllun Pum Mlynedd mewn perthynas â Safon 110 o Safonau’r Gymraeg sy’n anelu at gynyddu ein gallu i gynnig ymgynghoriadau clinigol trwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch ag Alaw.Griffith@wales.nhs.uk gydag unrhyw ymholiadau neu sylwadau
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Eleri Hughes-Jones
Rheolwr Gwasanaethau Cymraeg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, LL57 2PW
Rhif Ffôn: 01248 385 078
E-bost: eleri.hughes-Jones@wales.nhs.uk
Alaw Griffith
Swyddog Cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Inffyrmari Dinbych, Dinbych, Sir Ddinbych, LL17 3ES
Rhif Ffôn: 03000 855 718
E-bost: alaw.griffith@wales.nhs.uk
Bydd unrhyw gwynion yn ymwneud â chydymffurfiad â’r Safonau neu ddiffyg ar ran y Bwrdd Iechyd i ddarparu gwasanaeth cyfrwng Cymraeg, yn cael eu hadrodd i Fforwm Strategol yr Iaith Gymraeg, ac yn dilyn trefn gwynion arferol y Bwrdd Iechyd – Gweithio i Wella / Putting Things Right.
Cwyno - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)
Tîm Profiad y Claf a Gofalwyr - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)