Ein diben ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw gwella iechyd a darparu gofal rhagorol i bobl Gogledd Cymru. Rydym yn cymryd cyfrifoldeb o ddifrif. Rydym yn benderfynol o weithio â chleifion, teuluoedd, gofalwyr a chymunedau i roi lles corfforol a meddyliol ein poblogaeth wrth wraidd popeth a wnawn. Mae gweithio â gofal cychwynnol ac mewn partneriaeth ag eraill - yn cynnwys awdurdodau lleol a'r sector gwirfoddol - yn hanfodol os ydym am ddarparu mwy o ofal yn nes at gartrefi cleifion ac i ffwrdd o ysbytai.
Mae'r strategaeth hon yn nodi sut byddwn yn darparu gofal diogel, o ansawdd uchel i bawb rydym yn ei drin dros y tair blynedd nesaf. Mae'n disgrifio ein sefyllfa bresennol - beth rydym yn ei wneud yn dda, a ble rydym angen gwella - ac yn nodi'r ystod o gamau rydym yn eu cymryd i wneud y gwelliannau hynny.
Bydd yn arwain ein holl gynllunio a datblygiad. Bydd ein gweithgarwch yn cael ei fesur a'i werthuso yn ei erbyn, fel y gallwn feincnodi cynnydd a dynodi meysydd perfformiad nad ydynt yn bodloni ein safonau uchel a chymryd camau i wella.
Strategaeth Gwella Ansawdd (2017 - 2020)