Diben y Datganiad Llywodraethu Blynyddol yw rhoi sicrwydd am drefniadau llywodraethu'r Bwrdd Iechyd. Yn y bôn, mae'n nodi i ba raddau mae'r Bwrdd Iechyd wedi datblygu, cynnal a chydymffurfio â systemau cadarn o reolaeth fewnol sy'n amddiffyn asedau'r sefydliad ac yn hwyluso cyflawni nodau'r Bwrdd Iechyd i ddarparu gofal diogel, tosturiol ac o ansawdd uchel i'w boblogaeth.
Mae'n rhaid i'r systemau a'r prosesau hynny fod yn effeithiol er mwyn cael llywodraethu o safon uchel ar draws y Bwrdd Iechyd. Mae'r datganiad yn crynhoi sut ceir sicrwydd ar y systemau a'r prosesau hyn ac mae'n rhestru'r meysydd allweddol mae angen eu gwella.
Mae'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn cael ei gyhoeddi fel rhan o Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Bwrdd Iechyd, ond gan nad yw wedi'i gyfyngu i faterion ariannol, mae'n cael ei gynhyrchu yma fel dogfen ar wahân: