Diben Pwyllgor Deddf Iechyd Meddwl Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ydy sicrhau bod holl ofynion Deddf Iechyd Meddwl 1983 (fel y'i diwygiwyd) yn cael eu diwallu gan y Bwrdd Iechyd.
Mae gan Bwyllgor Deddf Iechyd Meddwl y Bwrdd Iechyd gylch gwaith cyfyng iawn. Diben y Pwyllgor yw ystyried a monitro defnydd o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (MHA), Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (sy'n cynnwys Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS) (MCA) a Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (y Mesur) a rhoi sicrwydd i'r Bwrdd.
Mae materion llywodraethu, arwain, ansawdd a diogelwch yn ymwneud ag iechyd meddwl yn perthyn i gylch gwaith y Pwyllgor Ansawdd, Diogelwch a Phrofiad. Mae'r Pwyllgor hwn wedi parhau i gyfarfod trwy gydol cyfnod y pandemig.
Mae cyfarfodydd holl Bwyllgorau'r Bwrdd Iechyd bellach yn cael eu cynnal yn rhithiol. Mae cyfarfod arfaethedig Pwyllgor y Ddeddf Iechyd Meddwl yr oedd disgwyl ei gynnal ar 18 Medi wedi'i ohirio. Gwnaed y penderfyniad hwn oherwydd nifer o newidiadau i arweinyddiaeth ac er mwyn galluogi Arweinydd Gweithredol newydd Iechyd Meddwl, Teresa Owen i fod yn bresennol. Caiff y cyfarfod hwn ei gynnal ym mis Hydref. Er nad yw Pwyllgor y Deddf Iechyd Meddwl wedi cyfarfod yn ystod pandemig COVID-19, mae adroddiadau allweddol ar berfformiad wedi'u cylchredeg ymysg aelodau.
Mae manylion rôl lawn y Pwyllgor yn y Cylch Gorchwyl gan gynnwys yr Is-bwyllgor Pŵer Rhyddhau (diweddarwyd Medi 2017).
Mae'r Cynllun Gwaith Blynyddol yn nodi arferion gwaith y Pwyllgor gan gynnwys y gofyniad am Gylch Busnes (CoB) sy'n cael ei adolygu'n rheolaidd.
Mae'r Pwyllgor yn creu adroddiad blynyddol o'i weithgareddau ar gyfer y Bwrdd 2020-21
Cadeirydd y Pwyllgor: Mrs Lucy Reid
Is-gadeirydd: swydd wag
Aelodau Annibynnol y Pwyllgor: Cynghorydd Cheryl Carlisle a Mr Eifion Jones
Prif Swyddog Gweithredol: Dr David Fearnley, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol
Ysgrifenyddiaeth: Jody Evans ac mae modd cysylltu â hi drwy: jody.evans@wales.nhs.uk / 01745 448 788 est 6362
Ar gyfer cofnodion a phapurau blaenorol, cysylltwch â’r Swyddog Ysgrifenyddol perthnasol a enwir uchod
2021 |
25.6.21 |
12.3.21 |
2020 |
11.12.20 |
19.10.20 |
18.9.20 |
10.6.20 - CYFARFOD WEDI'I GANSLO |
27.3.20 - CYFARFOD WEDI'I GANSLO |
2019 |
20.12.19 |
27.9.19 |
28.6.19 |
29.3.19 |
3.1.19 |