Neidio i'r prif gynnwy

Pwyllgor Tâl a Thelerau Gwasanaeth

Cafodd Pwyllgor Tâl a Thelerau Gwasanaeth BIPBC ei sefydlu ar 1.1.15, ar ôl adolygiad o Bwyllgorau'r Bwrdd Iechyd ym mis Rhagfyr 2014.

Diben y Pwyllgor yw darparu:

  • cyngor i'r Bwrdd ar dâl a thelerau gwasanaeth ar gyfer y Prif Weithredwr, Cyfarwyddwyr Gweithredol ac uwch staff eraill yn y fframwaith sydd wedi'i osod gan Lywodraeth Cymru;
  • sicrwydd i'r Bwrdd mewn perthynas â threfniadau'r Bwrdd Iechyd ar gyfer tâl a thelerau gwasanaeth, gan gynnwys trefniadau contractau, ar gyfer yr holl staff, yn unol â'r gofynion a'r safonau a bennir ar gyfer y GIG yng Nghymru; a
  • chyflawni swyddogaethau penodol fel sy'n cael eu dirprwyo gan y Bwrdd a'u rhestru yn y Cylch Gorchwyl (Gorffenaf 2021)

Mae adroddiad blynyddol y Pwyllgor ar gyfer 2020-21 ar gael yma

Cadeirydd y Pwyllgor: Dyfed Edwards
Dirprwy Gadeirydd y Pwyllgor: Gwag
Aelodau Annibynnol y Pwyllgor:

Pob Aelod Annibynnol

Prif Swyddog Gweithredol:  Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu'r Sefydliad a'r Gweithlu

Ysgrifenyddiaeth: Llinos Roberts ac mae modd cysylltu â hi drwy BCU.OBS@wales.nhs.uk 

Cyfarfodau a Phapurau

Dilynwch y linc yma os gwelwch yn dda : 

Remuneration and Terms of Service Committee - Betsi Cadwaladr University Health Board (nhs.wales)

Ar gyfer cofnodion a phapurau blaenorol, cysylltwch â’r Swyddog Ysgrifenyddol perthnasol a enwir uchod