Neidio i'r prif gynnwy

Trawsnewid eich gofal iechyd trwy foderneiddio digidol

Mae’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu wrthi'n sefydlu system Cofnod Gofal Iechyd Electronig (EHR) i wella’r ffordd rydyn ni’n cynnig gofal i chi.

Credwn y bydd hyn yn newid cadarnhaol o ran sut byddwch chi, eich teuluoedd a'ch gofalwyr yn defnyddio ein gwasanaethau. Bydd hefyd yn helpu ein staff i'ch cynorthwyo'n fwy effeithlon. 

Pan fyddwch chi'n defnyddio gwasanaethau, bydd yn bwysig i ni sicrhau ein bod yn cofnodi eich gwybodaeth fel na fydd yn rhaid i chi ailadrodd eich stori dro ar ôl tro. Dylai'r timau sy'n ymwneud â'ch gofal allu cyrchu'r wybodaeth berthnasol i'w galluogi i'ch cynorthwyo. Credwn y bydd y system ddigidol newydd hon yn ein helpu i wneud hynny'n well. 

Beth sy'n Newid? 

Bydd eich cofnodion gofal iechyd yn cael eu storio'n ddigidol. Yn sgil hynny, gall y bobl briodol weld y wybodaeth briodol yn ddiogel ar adegau priodol, ar system gyfrifiadurol ddiogel. 

Sut Byddwch Chi’n Elwa yn sgil Hynny: 

  • Gofal mwy diogel - Gall eich timau gofal iechyd gyrchu eich manylion mwyaf diweddar yn rhwydd ar draws gwasanaethau i gynorthwyo i gynnig gofal i chi. Bydd hyn yn ein helpu i weithio'n gyflymach gyda'n gilydd 
  • Gofal mwy cyson - yn sgil storio'r holl wybodaeth allweddol mewn un lle, ni fydd angen i chi ailadrodd eich stori ym mhob apwyntiad 
  • Cyfathrebu gwell - gall eich timau gofal iechyd, meddygon teulu a gweithwyr proffesiynol eraill gydweithio â chi i wneud penderfyniadau'n gyflymach 
  • Gofal cyflymach a mwy effeithlon - gellir  prosesu atgyfeiriadau a threfnu apwyntiadau yn gyflym a heb gymaint o oedi 

Hanfod y newid hwn yw sicrhau bod eich profiadau o ofal yn fwy diogel, yn gyson ac yn haws i chi, drwy wella ein dulliau cyfathrebu. Rydym am i chi deimlo eich bod yn cael eich cynorthwyo, yn cael gwrandawiad ac yn cael gofal trwy gydol eich taith.

Diben y dudalen we hon yw cynnig y wybodaeth ddiweddaraf i chi am gynnydd ein gwaith i sefydlu system Cofnodion Gofal Iechyd Electronig a fydd yn well i chi ac yn well i'r staff sy'n eich cynorthwyo.