Neidio i'r prif gynnwy

Carreg Filltir Gyffrous - Cyflwyno ePMA yn Heddfan

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi cyflwyno system Presgripsiynu a Gweinyddu Meddyginiaethau yn Electronig (ePMA) yn llwyddiannus yn Heddfan, Wrecsam sef safle sydd wedi mabwysiadu'r strategaeth yn gynnar. Dyma garreg filltir allweddol yn ein taith drawsnewid, ddigidol barhaus.

Beth Mae Hyn yn ei Olygu i'n Timau:

  • Gofal Gwell, Mwy Diogel: Bydd ePMA yn dod â llif gwaith digidol, symlach sy'n lleihau dyblygu a gwallau, ac yn gwella diogelwch cleifion ar wardiau Heddfan.
  • Mwy o Hyder i Staff: Mae ein safleoedd sy'n mabwysiadu strategaethau’n gynnar yn ein helpu i fireinio'r system mewn amgylcheddau clinigol go iawn. Bydd hyn yn sicrhau bod ePMA yn gadarn, yn ddibynadwy, ac wedi'i lunio gan arferion yn y byd go iawn erbyn iddo gael ei gyflwyno i safleoedd eraill.
  • Cydweithio yn Gyrru Llwyddiant: Mae ymrwymiad ac adborth gan dimau rheng flaen yn dylanwadu'n uniongyrchol ar welliannau, gan sicrhau bod y system yn diwallu anghenion y rhai sy'n ei defnyddio bob dydd.
  • Carreg Filltir Ddigidol Bwysig: Mae'r gwaith hwn hefyd wedi sicrhau integreiddio di-dor â Chofnod Meddyginiaethau a Rennir Cymru - y cam cyntaf tuag at system integredig o reoli meddyginiaethau ar draws Gofal Sylfaenol a Gofal Eilaidd. Mae hwn yn gyflawniad arwyddocaol i BIPBC, Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) a gofal iechyd digidol ledled Cymru.

Roedd y gwaith o gyflwyno ePMA yn cynnwys trawsgrifio gwybodaeth am yr holl gleifion a dderbyniwyd i Heddfan â llaw - tasg a gyflawnwyd trwy ymdrech gydweithredol rhwng y timau Fferyllfa a Nyrsio Digidol. Roedd y timau ar y safle, yn rhoi cefnogaeth ymarferol i staff wrth iddynt lywio'r system newydd, ac fe brofodd hyn yn werthfawr dros ben.

 

Yn ogystal â hyn, cafwyd cefnogaeth drawsasiantaethol hanfodol gan ein cydweithwyr o BCU Digital, Better, a DHCW, a ddangosodd sut y mae paratoi, llywodraethu cryf, a gwaith tîm yn sicrhau bod  system yn cael ei lansio’n ddi-dor.

Diolch Arbennig i'n Mabwysiadwyr Cynnar

Hoffem ddiolch o galon i'r holl dîm yn Heddfan. Mae eu proffesiynoldeb, eu brwdfrydedd a'u hymrwymiad wedi bod yn allweddol i lwyddiant y cam hwn. Drwy fod mor gadarnhaol wrth groesawu newid, maen nhw'n helpu i baratoi'r ffordd ar gyfer system a fydd yn y pen draw, yn gwella'r ddarpariaeth o ofal ar draws y sefydliad cyfan.