Bydd ePMA yn trawsnewid presgripsiynu a rheoli meddyginiaethau ar draws y Bwrdd Iechyd, gyda system arloesol yn disodli siartiau papur mewn lleoliadau ysbyty a chymunedol.
Rydym yn cofleidio trawsnewid digidol trwy system arloesol Presgripsiynu a Gweinyddu Meddyginiaethau yn Electronig (ePMA). Gan weithio mewn partneriaeth â Better UK, byddwn yn rhoi’r datrysiad digidol blaengar hwn ar waith mewn dros 40 ysbyty, gan ddisodli prosesau seiliedig ar bapur i wella gofal cleifion a symleiddio presgripsiynu ar draws wardiau.
Mae’r system ePMA yn gwella diogelwch meddyginiaeth drwy ddarparu presgripsiynau clir, digidol gyda gwiriadau diogelwch wedi’u cynnwys ar gyfer alergeddau, adweithiau o ran cyffuriau a dos. Mae hyn yn sicrhau cywirdeb wrth bresgripsiynu ac yn galluogi cyfathrebu llyfn rhwng adrannau a thimau gofal iechyd, yn cadw gwybodaeth am feddyginiaeth yn gyfredol ac ar gael.
Wedi ei gynorthwyo gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW), mae ePMA yn rhan o strategaeth ddigidol ehangach wedi ei hanelu at wneud rheoli meddyginiaeth yn fwy effeithlon i gleifion, meddygon, nyrsys, a fferyllwyr. Drwy leihau’r defnydd o bapur, mae’r prosiect hefyd yn cynorthwyo ein nodau cynaliadwyedd.
Mae’r fenter hon yn ymdrech ar y cyd yn cynnwys fferylliaeth, nyrsio, digidol, a thimau clinigol. Fel rhan o fuddsoddiad £6.7 miliwn gan Lywodraeth Cymru, y nod yw i eMPA gael ei weithredu’n llawn ar draws ein holl ysbytai erbyn Mawrth 2026. Bydd hyn yn gam sylweddol tuag at system cofnodion iechyd cwbl ddigidol a gwell darpariaeth gofal iechyd ar draws Gogledd Cymru.
Rydym yn croesawu trawsnewid digidol drwy system electronig arloesol ar gyfer Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau (ePMA). Mewn partneriaeth â Better UK, byddwn yn gweithredu’r datrysiad digidol blaengar hwn mewn dros 40 o ysbytai, gan ddisodli prosesau papur i wella gofal cleifion a symleiddio rhagnodi ar draws wardiau.
Mae'r system ePMA yn gwella diogelwch meddyginiaeth trwy ddarparu presgripsiynau digidol clir gyda gwiriadau diogelwch mewnol ar gyfer alergeddau, rhyngweithiadau cyffuriau a dosau. Mae hyn yn sicrhau cywirdeb wrth bresgripsiynu ac yn galluogi cyfathrebu llyfn rhwng adrannau a thimau gofal iechyd, gan gadw gwybodaeth am feddyginiaeth yn gyfredol ac yn hygyrch.
Gyda chefnogaeth Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) , mae ePMA yn rhan o strategaeth ddigidol ehangach sydd â’r nod o wneud rheoli meddyginiaeth yn fwy effeithlon i gleifion, meddygon, nyrsys a fferyllwyr. Trwy leihau'r defnydd o bapur, mae'r prosiect hefyd yn cefnogi ein nodau cynaliadwyedd.
Mae’r fenter hon yn ymdrech ar y cyd sy’n cynnwys ein timau fferylliaeth, nyrsio, digidol a chlinigol. Fel rhan o fuddsoddiad o £6.7 miliwn gan Lywodraeth Cymru , y nod yw rhoi ePMA ar waith yn llawn ar draws ein holl ysbytai erbyn mis Mawrth 2026. Bydd hwn yn gam sylweddol tuag at system cofnodion iechyd cwbl ddigidol a gwell darpariaeth gofal iechyd ar draws y Gogledd. Cymru.