Rydym yn benderfynol o ddysgu o'n profiadau fel Bwrdd Iechyd. Rydym yn datblygu ffyrdd gwell o ddefnyddio'r holl adborth, gwybodaeth (data) a dysgu sydd ar gael i wella'n barhaus - nawr ac yn y dyfodol.
Cynnydd a wnaed
- Rydym yn datblygu System Rheoli Ansawdd gadarn. Mae trafodaethau eisoes ar y gweill gyda’n swyddogion gweithredol clinigol ac mae nifer o sesiynau wedi’u cynnal gyda Gwelliant Cymru a’n Bwrdd a’n tîm gweithredol ein hunain i ganolbwyntio ar ddatblygu System Rheoli Ansawdd, a disgwylir cyflwyno fersiwn gyntaf ym mis Mai 2024. Rydym hefyd yn ceisio dysgu gan gydweithwyr ledled Cymru a Lloegr sydd â Systemau Rheoli Ansawdd cadarn ar waith.
Cynlluniau at y Dyfodol
- Dysgu o gwestau: mae themâu cyson i’w gweld yn Adroddiadau Crwner EF o 2016 i 2023 ac rydym yn datblygu cynllun trylwyr i fynd i’r afael â’r pryderon a gwneud y newidiadau sydd eu hangen. Byddwn yn rhoi tystiolaeth iddynt wrth i ni wneud hynny.
- Dod yn sefydliad a arweinir gan wybodaeth. Rydym yn edrych ar ddatblygu ffyrdd gwell o gasglu, rhannu a defnyddio gwybodaeth (data) i lywio ein cynlluniau a pherfformiad.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: blwyddyn yn ddiweddarach, lawrlwytho digidol