Roedd llawer o'r pryderon a godwyd gan Lywodraeth Cymru yn gysylltiedig â'n strwythur fel Bwrdd Iechyd (ein trefniadau llywodraethu). Os ydym am ddarparu'r iechyd a'r gofal gorau posibl i bawb, yna rhaid i ni gael y strwythur gorau bosibl. Bellach, rydym yn canolbwyntio ar gael y cynlluniau, y prosesau a'r gweithdrefnau cywir yn eu lle er mwyn darparu gwasanaethau â'r gwerth gorau i'n poblogaeth.
Cynnydd a wnaed
- Bellach, mae gennym Fframwaith Cynllunio Integredig sydd wedi'i ddatblygu a'i gymeradwyo gan y Bwrdd. Mae hyn yn golygu ein bod mewn sefyllfa well i gynllunio ar draws ein holl wasanaethau.
- Yn ogystal, mae gennym Fframwaith Perfformiad Integredig sydd wedi'i ddatblygu a'i gymeradwyo gan y Bwrdd. Mae hyn yn golygu ein bod mewn sefyllfa well i ddeall perfformiad ar draws ein holl wasanaethau.
- Mae gennym gynllun ar gyfer rheoli arian yn well.
- Rydym wedi hyfforddi dros 400 o staff ar sut i brynu gwasanaethau a thalu amdanynt.
- Rydym yn datblygu ein Cynllun Blynyddol yn ogystal â chynllun ar gyfer y tair blynedd nesaf. Bydd y rhain yn cymryd ein hymateb i'r Mesurau Arbennig i ystyriaeth ac yn sicrhau bod ein hymagwedd yn cael ei drin fel mater o drefn ymhlith blaenoriaethau ehangach y Bwrdd Iechyd.
Cynlluniau at y dyfodol
- Cytuno ar ein Cynllun Blynyddol a'i gyhoeddi
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: blwyddyn yn ddiweddarach, lawrlwytho digidol