Ym mis Ebrill, 2021, lansiodd Llywodraeth Cymru Gynllun Cyflenwi Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru 2021 - 2030. Fel Bwrdd Iechyd, rydym wedi datblygu Cynllun Gweithredu Datgarboneiddio (DAP) pum mlynedd 2022-2026 gyda chymorth yr Ymddiriedolaeth Garbon. Mae'r cynllun yn ystyried adeiladau ac ynni, caffael, trafnidiaeth, teithio, gofal iechyd a rheoli carbon corfforaethol.
Rydym wedi ymrwymo i greu dyfodol mwy cynaliadwy, gwyrddach ac iachach.
Mae’r mentrau canlynol yn enghreifftiau o’n hymdrechion i gefnogi datgarboneiddio:
- Gosod cyfleusterau cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar ein safleoedd lle bo hynny'n ymarferol.
- Mae ein cydweithwyr mewn fferyllfeydd yn bwriadu cael gwared ag ocsid nitrus, a fydd yn symud tuag at achrediad GreenED.
- Prosiectau i leihau gwastraff fferyllol sy'n effeithio ar yr amgylchedd, yn ogystal â lleihau costau o bosib.
- Paratoi i allu symud ymlaen â chynhyrchu gwres carbon isel ar gyfer safleoedd nad ydynt yn acíwt sy'n fwy na 1,000m2 erbyn 2030.
- Sicrhau bod pob cerbyd cludo nwyddau, canolig a mawr newydd sydd yn ein meddiant ni ar ôl Ebrill 2025 yn bodloni safonau modern y dyfodol o gerbydau ag allyriadau isel iawn.
- Symud ymlaen gyda chaffael trydan 100% gyda chefnogaeth REGO.
- Parhau â'r rhaglen o osod goleuadau LED (Deuodau Allyrru Golau) yn lle'r holl oleuadau presennol.
- Ystyried effaith carbon wrth ddarparu gwasanaethau, gan gyrchu’n lleol lle bo hynny’n bosibl.
- Parhau i ddadlau dros ddatrysiadau digidol sy'n cynnig y potensial o ddefnyddio llai o bapur, yn ogystal â'r cyfleoedd diogelwch ymhlith cleifion y gall datrysiadau digidol eu darparu.
- Gwella ein bioamrywiaeth drwy gynlluniau teithio gwyrdd, plannu mwy o goed a gwella ein gerddi.