Neidio i'r prif gynnwy

Sefydlu amgylchedd effeithiol ar gyfer dysgu

Y Pumed Amcan

Mae maes amcan 5 yn rhoi cyfle i ni ddysgu pan fydd pethau'n mynd o chwith, i addysgu, ac i ddefnyddio'r ffynonellau gwybodaeth niferus sydd ar gael i ni er mwyn cefnogi penderfyniadau a gwybodaeth.

Partneriaid Prifysgol

Mae cyfoethogi academaidd yn rhan annatod o ddull y Bwrdd Iechyd o ddarparu gofal meddygol, nyrsio a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd o ansawdd uchel i drigolion Gogledd Cymru. Mae cynnal lefelau uchel o ymchwil, datblygu ac arloesi yn cynorthwyo’r Bwrdd Iechyd i recriwtio gweithwyr proffesiynol o safon uchel ac i ddarparu gwasanaethau clinigol blaengar.

Ymchwil, Datblygiad ac Arloesedd

Mae’r Bwrdd Iechyd yn elwa o fod yn sefydliad sy’n weithgar ym maes ymchwil, tra’n manteisio’n gyflym ar y datblygiadau arloesol diweddaraf ac yn dymuno cadw ac ehangu ar y buddion hyn. Eleni dechreuodd Cyfleuster Ymchwil Clinigol Gogledd Cymru y treial brechiadau dynol cyntaf yn y DU yn y frwydr yn erbyn mpox (a elwid yn flaenorol yn frech y mwncïod). Noddwyd y treial gan Moderna ar gyfer brechlyn newydd yn erbyn y clefyd a dyma'r astudiaeth arloesol ddiweddaraf i'w chynnal yn y cyfleuster.

Gyrfaoedd academaidd

Mae cynnig llwybrau gyrfa sy’n cynnwys arfer academaidd a gweithredol â’r potensial i helpu’r Bwrdd Iechyd i recriwtio a chadw staff mewn meysydd anodd eu staffio, a hefyd i helpu i gynnal dull arloesol o ailgynllunio gwasanaethau.

Wedi'i arwain gan Wybodaeth

Mae nifer o adolygiadau allanol wedi nodi'r angen i'r Bwrdd Iechyd wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth yn seiliedig ar ddata da. Bydd dod yn sefydliad sy'n cael ei arwain gan wybodaeth yn golygu gwneud penderfyniadau rhagweithiol, lliniaru risg, y defnydd gorau posibl o adnoddau a gwella ansawdd a pherfformiad sy'n golygu gwella canlyniadau iechyd a lles ar draws Gogledd Cymru.

Sefydliad sy'n dysgu

Bydd ymchwilio'n gadarn i ddigwyddiadau arwyddocaol, ac yna sicrhau dysgu eang yn lleihau nifer y digwyddiadau arwyddocaol sy'n codi yn y dyfodol.

Bydd ysgol feddygol newydd Gogledd Cymru yn derbyn ac yn hyfforddi cannoedd o fyfyrwyr meddygol yn ei degawd cyntaf a bydd yn helpu i sicrhau bod mwy o gyfleoedd hyfforddi i feddygon cymwys gael aros a gweithio o fewn GIG Cymru.