Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair

Dyfed Edwards, Cadeirydd a Carol Shillabeer, Prif Weithredwr

Mae'n bleser gennym gyflwyno Cynllun Tair Blynedd Integredig Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar gyfer y cyfnod o 2024 hyd at 2027.

Mae'r Cynllun Integredig hwn yn nodi pwynt pwysig ar gyfer y Bwrdd Iechyd. Hwn yw'r cynllun cyntaf a ddatblygwyd gan y Bwrdd Iechyd o dan arweinyddiaeth Cadeirydd a Phrif Swyddog Gweithredol newydd, ac mae hynny wedi'i ategu gan newid sylweddol i aelodaeth o’r Bwrdd. Mae'n nodi uchelgais glir i roi trawsnewid a gwella ar waith ac i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel ac sy'n gynaliadwy ar gyfer pobl Gogledd Cymru. Mae'r cynllun hwn yn amlinellu llawer o'r camau gweithredu sydd eu hangen i wneud hyn ac yn benodol, mae'n amlygu bod llwyddiant parhaol yn ei gwneud yn ofynnol i ni fynd i'r afael â'r heriau presennol ynghyd â dealltwriaeth gadarn am anghenion y dyfodol. Fel y cyfryw, rydym yn tynnu sylw at yr angen i sefydlu gweledigaeth strategol glir ar gyfer y Bwrdd Iechyd dros y cyfnod nesaf o ddeng mlynedd sy'n arwain at welliannau mewn iechyd a lles ac sy'n darparu gwasanaethau gofal iechyd rhagorol ar gyfer pobl Gogledd Cymru. Bydd hyn yn ein harwain o ran adeiladu ymhellach ar y gwasanaethau sy'n gweithio'n dda gan gefnogi gwasanaethau lle bo angen eu had-drefnu er mwyn delio â'r galw presennol a galw yn y dyfodol.

I wneud hyn, bydd angen i ni wrando'n ofalus ar bobl Gogledd Cymru a'n partneriaid, ac i weithio gyda nhw ac mae ein bwriad i wneud hynny wedi'i nodi'n glir yn y Cynllun hwn. Bydd hyn yn arwain at y datrysiadau gorau i Ogledd Cymru ac mae'n cydnabod bod y datrysiadau hynny'n cynnwys cydberthnasau dwfn ac ystyrlon sy'n adeiladu ar ymddiriedaeth a dealltwriaeth y bydd cydweithio fel 'system gyfan' yn cefnogi'r Bwrdd Iechyd a'n partneriaid, ac yn arwain at ganlyniadau gwell. Y Bwrdd Iechyd yw'r cyflogwr mwyaf yng Ngogledd Cymru, ac mae ganddo gyllideb flynyddol o ryw £2 biliwn. Felly rydym am ddefnyddio'r adnodd cyhoeddus hwn i helpu Gogledd Cymru i ffynnu. Mae hyn yn cynnwys sut y gallwn greu cyfleoedd i'n gweithlu presennol a'n darpar weithlu gan weithio'n ofalus gyda phartneriaid wrth wneud hynny. Mae hefyd yn cynnwys cyfleoedd i wella sut rydym yn gwario ein cyllideb er mwyn cael y canlyniadau iechyd gorau i boblogaeth Gogledd Cymru ac i wella ein rôl fel 'sefydliad angori' yng Nghymru. Yn olaf, hoffem ddiolch i'n cymunedau a'n partneriaid am eu cefnogaeth a'u parodrwydd i rannu cyngor a syniadau. Rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar hyn wrth i ni gryfhau'r cydberthnasau hyn ac ystyried ffyrdd o wella gwasanaethau gofal iechyd gyda'n gilydd yng Ngogledd Cymru nawr ac yn y dyfodol.