Mae'n bwysig ei gwneud yn haws i bobl gael mynediad at ofal brys a gofal mewn argyfwng yn y lle iawn pan fydd ei angen arnynt. Bydd gwella argaeledd a'r defnydd o wasanaethau priodol amgen i'r rhai sydd angen gofal mewn argyfwng, ond nad yw'n bygwth bywyd, yn arwain at brofiadau a chanlyniadau gwell i'r rhai sy'n defnyddio'r gwasanaethau hynny. Drwy leihau'r pwysau ar Adrannau Achosion Brys bydd hefyd yn arwain at wella profiadau a chanlyniadau'r rhai sydd angen y lefel uchaf o ofal a chymorth. Mae llawer o bobl yn dal i fynd i Adrannau Achosion Brys pan allent fod wedi cael eu trin mewn lleoliadau gofal iechyd eraill, megis uned mân anafiadau, gan wasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau (gan gynnwys GIG 111 Cymru) neu mewn llawer o achosion gan wasanaethau gofal wedi'i gynllunio mewn lleoliadau llai brys. Mae cyfeirio, ochr yn ochr â sicrhau mynediad amserol digonol at wasanaethau gofal wedi'i gynllunio, yn parhau i fod yn bwysig o ran lleihau'r galw y gellir ei osgoi ar wasanaethau brys a gofal mewn argyfwng. Mae cynlluniau i wella Gwasanaethau Gofal Brys ar yr Un Diwrnod ac ehangu’r defnydd o wasanaethau fferylliaeth gymunedol fel dewis amgen i ofal brys, gwasanaethau meddygon teulu ac ysbytai ymhlith y camau sy’n cael eu cymryd i helpu i gael y gofal a’r cymorth sydd eu hangen arnynt heb oedi y gellir ei osgoi.