Neidio i'r prif gynnwy

Adeiladu sefydliad effeithiol

Yr Amcan Cyntaf

Mae maes amcan cyntaf yn cydnabod pwysigrwydd llywodraethu a gweithdrefnau effeithiol a gwneud penderfyniadau mewn sefydliadau gofal iechyd gweithredol. Bydd hyn yn sicrhau bod penderfyniadau'n cael eu gwneud mewn modd amserol, gan ddefnyddio gwybodaeth briodol, a bod y bobl gywir yn cael eu cynnwys i sicrhau bod y penderfyniadau cywir yn cael eu gwneud y tro cyntaf. Mae dogfen y Cynllun Tair Blynedd yn llawn, ar gael yma.

Effeithiolrwydd y Bwrdd

Mae Bwrdd effeithiol ac effeithlon yn hanfodol er mwyn llywio'r sefydliad yn y ffordd orau bosibl trwy'r heriau o ran perfformiad a phenderfyniadau sydd wedi arwain at uwchgyfeirio'r sefydliad i fod yn destun Mesurau Arbennig.

Rheoli Risg (Risk Management) 

Bydd proses rheoli risg effeithiol yn lleihau nifer y risgiau hwyr a drafft, sydd â chysylltiadau uniongyrchol â gwell gofal a phrofiad cleifion.

Model Gweithredu

I'r sefydliad fod yn effeithiol, mae angen model gweithredu (strwythur) arno sy'n caniatáu i arwain a rheoli gwasanaethau a gwelliant ddigwydd ar lefel systemaidd, gan gynnwys ymagweddau tuag at ddarparu gwasanaethau sy'n cynnal ac yn galluogi cynaliadwyedd yn y tymor hwy. Bydd gwella effeithiolrwydd model gweithredu'r Bwrdd Iechyd yn fodd o sicrhau gwell aliniad o ran darpariaeth weithredol a gofynion strategol.

Fframwaith perfformiad ac atebolrwydd

Mae'r fframwaith yn ategu gwella perfformiad trwy ymagwedd bartneriaeth sy'n cynnwys didwylledd ac arloesi, a thrwy sicrhau ymrwymiad ar bob lefel yn y sefydliad i wella. Caiff cyflawni dangosyddion perfformiad cenedlaethol a lleol allweddol, disgwyliadau o ran mesurau arbennig a gweithgarwch a metrigau ariannol ei wella. Bydd cyflawni'n llwyddiannus yn arwain at ganlyniadau gwell i gleifion a staff y Bwrdd Iechyd, a bydd yn sicrhau bod pawb sydd ynghlwm wrth y cyfan yn deall eu rolau, eu cyfrifoldebau a'u hatebolrwydd.

Gwerth a chynaliadwyedd

Bydd gwella gwerth a chynaliadwyedd gwasanaethau'n golygu y bydd yr adnoddau cyfyngedig sydd ar gael i'r Bwrdd Iechyd yn mynd ymhellach er mwyn caniatáu darparu mwy o ofal ar gyfer trigolion Gogledd Cymru.

Gwelliannau deddfwriaethol

Bydd cydymffurfiaeth gadarn at ddeddfwriaeth HSE a'r Ddeddf Argyfyngau Sifil yn lleihau'r risg o niwed y gellid ei osgoi a gwella effeithiolrwydd a hyder y sefydliad yn gyffredinol.

Cynllunio gweithlu

Bydd datblygu sgiliau pellach o ran cynllunio'r gweithlu yn lleihau nifer y bylchau sylweddol yng ngweithlu'r Bwrdd Iechyd trwy ganiatáu ymagwedd wedi'i blaenoriaethu ar gyfer swyddi gwag ar hyn o bryd, datblygu modelau gofal ar gyfer y dyfodol, a lleihau'r ddibyniaeth ar staff asiantaethau drud sydd yn aml ar gael yn anghyson. Bydd y newidiadau hyn yn gwella profiad cleifion yn ystod y flwyddyn, a bydd yn sicrhau bod y newidiadau y mae'r Bwrdd Iechyd yn eu gwneud yn fwy tebygol o lwyddo ac i arwain at y canlyniadau gorau.

System rheoli ansawdd

Mae'r Bwrdd Iechyd yn gwneud cynnydd, gan weithio gyda staff i ystyried y ffordd orau o roi System Rheoli Ansawdd gadarn ar waith i gynnal a sicrhau penderfyniadau sy'n canolbwyntio ar ansawdd. Bydd yr ymagwedd hon tuag at arwain yn arwain at well dibynadwyedd, gwelliannau mewn cynaliadwy, profiad gwell a gwelliant o ran canlyniadau clinigol.

Y Gymraeg

Sicrhau bod anghenion iaith Gymraeg cleifion, cyhoedd a staff yn cael eu diwallu a bod modd i weithlu'r Bwrdd Iechyd ddatblygu eu sgiliau iaith yn y gweithle.

Datgarboneiddio

Gwelliannau cyson o ran allyriadau carbon y Bwrdd Iechyd gan ganolbwyntio ar adeiladau ac ynni, caffael, trafnidiaeth, teithio, gofal iechyd a dulliau corfforaethol o ran rheoli carbon. Fel rhan o ymrwymiad i leihau ei ôl troed carbon, bydd y bwrdd iechyd yn anelu at ddefnyddio cyflenwad ynni cwbl adnewyddadwy, yn ogystal ag amnewid yr holl oleuadau presennol gyda goleuadau LED erbyn 2025.