Penodwyd Pam Wenger fel Cyfarwyddwr Llywodraethu Corfforaethol y Bwrdd Iechyd hwn yn Ebrill 2024. Mae Pam yn Weithiwr Proffesiynol Llywodraethu Siartredig uchel ei pharch ac mae ei harbenigedd helaeth yn rhychwantu 30 mlynedd yn gweithio fel Cyfarwyddwr Llywodraethu i’r GIG yng Nghymru a Lloegr.
Cyn ymuno â ni, bu Pam yn Ysgrifennydd y Bwrdd yn Cygnet Health Care, lle roedd hi’n gallu archwilio cyfleoedd llywodraethu ehangach a defnyddio ei sgiliau sylweddol yn y sector annibynnol hefyd.
Sefydlwyd y Gyfarwyddiaeth Llywodraethu Corfforaethol o dan arweinyddiaeth Pam ac mae’n dod â llywodraethu, risg, swyddogaethau cydymffurfio a chyfreithiol ynghyd. Nodau ac uchelgeisiau’r Gyfarwyddiaeth yw cyflwyno gwasanaeth corfforaethol o ansawdd uchel sy’n gosod dulliau da o ran llywodraethu a gwneud penderfyniadau wrth wraidd popeth a wna’r Bwrdd Iechyd i boblogaeth Gogledd Cymru.
Mae Pam yn angerddol dros ddatblygu pobl. Fel hyfforddwr a mentor, mae hi wedi cynorthwyo a datblygu llawer o gydweithwyr dros y blynyddoedd i’w galluogi nhw i fod ar eu gorau posibl.
Mae Pam wedi llwyddo ac mae’n parhau i fod yn falch o ddatblygu diwylliannau sy’n ymgorffori gwerthoedd sefydliad a safonau ymddygiad ar y cyd. Mae Pam yn eiriolwr taer dros ‘Siarad Allan’ ac roedd yn gyfrwng i sefydlu rhwydwaith o Lysgenhadon Rhyddid i Siarad Allan (Freedom to Speak Up Ambassadors) yn ei rôl fel Ysgrifennydd Ymddiriedolaeth GIG Sefydledig Ysbyty Prifysgol Bryste.
Mae Pam wedi hen arfer â sicrhau cydbwysedd rhwng ei bywyd personol a’i bywyd proffesiynol; fe wnaeth hi ymgymryd â’i holl gymwysterau proffesiynol yn rhan amser tra’n gweithio’n llawn amser. Yn ei hamser hamdden, mae Pam yn mwynhau bod ym myd natur, cerdded, a theithio.