Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (AGM) 2024

Cynhelir ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (AGM) ddydd Mercher, 25 Medi 2024 rhwng 10.30am a 12:00pm. Diben ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yw edrych yn ôl a myfyrio ar y cynnydd rydym wedi’i wneud yn ogystal â’r heriau rydym wedi’u hwynebu fel Bwrdd Iechyd yn ystod 2023/24.  Bydd y sawl sy'n bresennol yn clywed gan amrywiaeth o siaradwyr o bob rhan o'r Bwrdd Iechyd a fydd yn rhannu enghreifftiau o'r gwaith maent wedi'i wneud yn ystod 2023/24.   

Caiff digwyddiad eleni ei gynnal fel digwyddiad hybrid, a chaiff y cyfranogwyr eu hannog i gymryd rhan wyneb yn wyneb yn Ystafell Ogwen, Venue Cymru, Llandudno LL30 8BB. I'r rhai nad ydynt yn gallu mynychu wyneb yn wyneb, bydd ffrwd fyw o'r digwyddiad ar gael ar Youtube.  

Fel rhan o'r digwyddiad, rydym yn awyddus i gasglu adborth gan bobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau yn ogystal â mynd i'r afael ag unrhyw gwestiynau a allai fod gennych. Rydym yn eich gwahodd i anfon eich cwestiynau neu'ch sylwadau trwy e-bost heb fod yn hwyrach na phum niwrnod gwaith cyn y cyfarfod.

I’r rhai sy’n dod i'r cyfarfod wyneb yn wyneb, bydd cyfle i weld a thrafod gwaith anhygoel amryw o wasanaethau'r Bwrdd Iechyd yn y Ffair Iechyd o 9:30am ymlaen. 

Cewch fwy o fanylion yn adran Cyfarfodydd Bwrdd Iechyd y wefan hon.