Teresa yw Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a Gwyddor Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Gwnaeth Teresa gais llwyddiannus am y swydd newydd hon a dechreuodd yn y rôl ym mis Awst 2024. Mae Teresa yn un o weithredwyr clinigol y Bwrdd Iechyd ac mae’n gyfrifol yn broffesiynol am ystod amrywiol o Wyddonwyr Iechyd a Phroffesiynau Perthynol i Iechyd yn rhinwedd ei swydd. Mae Teresa hefyd yn arweinydd gweithredol ar gyfer dau dîm Bwrdd Iechyd – y tîm Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu Oedolion, a thîm Gwasanaethu’r Gymraeg y Bwrdd Iechyd.
Cafodd Teresa ei hyfforddi a’i chymhwyso i fod yn ddeietegydd i ddechrau. Ar ôl cymhwyso ymhellach i fod yn athrawes uwchradd a chymryd rôl Addysgwr Bywyd cyntaf Gogledd Cymru ar ran ‘Hybu Iechyd Cymru’ bu’n gweithio yn Ysbyty Glan Clwyd am nifer o flynyddoedd o fewn deieteg gymunedol. Aeth Teresa ymlaen wedyn i fod yn Gynghorydd Proffesiynol ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd yng Nghymru cyn dechrau ar ei hyfforddiant Deoniaeth Cymru ym maes Iechyd Cyhoeddus yn 2004. Ar ôl derbyn ei Thystysgrif Cwblhau Hyfforddiant yn 2008, bu Teresa’n gweithio yn y timau Iechyd Cyhoeddus yn Henffordd, Gogledd Swydd Stafford, Cilgwri a Hywel Dda – gan symud ymlaen o weithio fel Ymgynghorydd i fod yn Gyfarwyddwr Gweithredol. Bu Teresa hefyd yn Gyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus yn Betsi Cadwaladr rhwng Ionawr 2017 ac Ionawr 2024.
Mae Teresa yn falch iawn o’i gwreiddiau yng Ngogledd Cymru, mae’n Gymrawd Churchill ac yn aelod o Fwrdd Cynghori ‘Mwy Na Geiriau’.