Neidio i'r prif gynnwy

Tehmeena Ajmal

Mae gan Tehmeena gyfoeth o brofiad yn gweithio ym maes gofal iechyd, awdurdodau lleol a'r trydydd sector a bydd yn ymuno â'r Bwrdd Iechyd ym mis Mawrth 2025.

Ar ôl dechrau gyrfa mewn datblygiad cymunedol yn Bolton, ac yna dilyn dysgu a datblygiad yng Nghyngor Dinas Manceinion, gwnaeth Tehmeena ymuno â'r GIG ym 1994. Ers hynny, mae Tehmeena wedi cyflawni ystod o rolau arwain a gwella mewn gwasanaethau acíwt, cymunedol ac iechyd meddwl.

Yn 2012, ymunodd Tehmeena ag Oxford Health NHSFT, yn y lle cyntaf fel Pennaeth Ansawdd a Risg, ac yn ddiweddarach mewn ystod o rolau gweithredol cyn arwain yr ymateb i bandemig COVID-19, gan sefydlu'r rhaglen frechu torfol ar draws Swydd Rydychen, Swydd Buckingham a Gorllewin Berkshire.

Ers 2022, mae Tehemma wedi bod yn Brif Swyddog Gweithredu yn Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Berkshire yn cynnal gwasanaethau iechyd meddwl, plant a chymunedol.