Ymunodd Russell â’r Bwrdd Iechyd fel Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid dros dro ym mis Gorffennaf 2023 ac mae wedi bod yn y rôl ar sail barhaol ers Ionawr 2025.
Mae Russell yn gyfrifydd cymwys ac yn aelod llawn o Gymdeithas Siartredig y Cyfrifwyr Ardystiedig, gyda mwy na 25 mlynedd o brofiad o fewn sefydliadau'r GIG. Mae wedi dal swydd prif swyddog cyllid Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Walsall am yr wyth mlynedd diwethaf a chyn hynny bu mewn swyddi uwch yn Ysbytai Prifysgol Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Swydd Stafford ac Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Sandwell.