Neidio i'r prif gynnwy

Helen Stevens-Jones

Gyda 30 mlynedd o brofiad yn y maes cyfathrebu ac ymgysylltu, mae Helen yn arwain y tîm Partneriaethau, Ymgysylltu a Chyfathrebu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Ers ymuno, mae hi wedi cryfhau ymgysylltiad cymunedol a phartneriaid ac wedi llywio dull cyfathrebu’r sefydliad i gael ei arwain yn fwy gan gynnwys — gwrando ar gymunedau, creu cynnwys perthnasol ac amserol, a’i gyflwyno drwy’r sianeli mwyaf effeithiol.

Yn newyddiadurwraig yn y gorffennol, mae Helen wedi gweithio ar lefel genedlaethol a rhanbarthol fel cyfarwyddwr, ymgynghorydd, ac o fewn y GIG, gan arbenigo mewn strategaeth, rheoli enw da ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Yn angerddol dros roi llais i gymunedau na chlywir ganddynt yn aml, mae hi wedi arwain ar faterion proffil uchel yn y cyfryngau, ymgynghoriadau cyhoeddus, ac ymgyrchoedd sydd wedi ennill sawl gwobr.

Yn ymddiriedolwraig elusen yn flaenorol, mae ei hymrwymiad at gefnogi pobl ifanc yn amlwg, ac mae hi’n parhau i hyrwyddo tegwch, uniondeb a gwneud penderfyniadau cynhwysol.