Neidio i'r prif gynnwy

Georgina Roberts

Cafodd George (Georgina) Roberts ei phenodi fel ein Cyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro Gwasanaethau Pobl a Datblygu Sefydliadol (OD) ym mis Gorffennaf 2025. Mae tîm Gwasanaethau Pobl a Datblygu Sefydliadol yn cynnwys tîm AD (Pobl), y tîm Iechyd Galwedigaethol, y tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, tîm Systemau ac Optimeiddio'r Gweithlu a'r tîm Datblygu Sefydliadol. Mae'r timau wrthi'n rhoi cymorth i'r Bwrdd Iechyd o ran nifer fawr o fentrau (mae gormod i sôn amdanynt yn unigol), efallai y bydd rhai ohonoch yn ymwybodol bod y rhain yn cynnwys y rhaglen Newid Diwylliant, ymgorffori ein fframwaith Gwerthoedd ac Ymddygiadau newydd, diweddaru ein fframwaith Arwain a Datblygu a rhaglen Sylfeini'r Dyfodol sy'n trawsnewid model gweithredu'r Bydd Iechyd a bydd yn pennu’r ffordd yr ydym yn gweithio yn y dyfodol, mae gan y rhaglen hon bum ffrwd waith - Strategaeth, Diwylliant, Pobl, Strwythurau a phrosesau.

Mae George yn Gymrawd y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu ac mae hi wedi bod yn weithiwr proffesiynol ym maes AD am 30 mlynedd yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus. Cyn ymuno â'r Bwrdd Iechyd yn 2016, mae George wedi cyflawni rolau uwch ym maes Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol gyda'r heddlu, awdurdodau lleol a'r sectorau adwerthu awyr agored.

Mae George sy'n hyfforddwr ac yn gyfryngwr angerddol dros degwch, datblygiad, gweithio mewn partneriaeth a chydweithio ac mae hi wedi rhoi cymorth i lawer o gydweithwyr dros y blynyddoedd yn y sefydliadau y mae hi wedi gweithio ynddynt ond hefyd yn y sector cyhoeddus ehangach yng Ngogledd Cymru.

I bob pwrpas, hwn yw ail lwybr gyrfaol George, roedd yr un cyntaf fel Hyfforddwr Gweithgareddau Awyr Agored ac Arweinydd Ieuenctid yn Nyfnaint a Chernyw am nifer o flynyddoedd ar ôl gadael yr ysgol, mae cariad at fod yn yr awyr agored wedi arwain George at fyw y rhan fwyaf o'i bywyd fel oedolyn yng Ngogledd Cymru, ar ôl cael profiadau o wirfoddoli dros wasanaeth Achub y Mynydd a National Coastwatch Institution. Mae hi bellach yn treulio ei hamser hamdden yn y mynyddoedd neu ar yr arfordir neu'n teithio gyda'i gŵr yn eu fan wersylla.