Prif Swyddog Digidol a Gwybodaeth (CDIO)
Dylan sy'n arwain strategaeth a darpariaeth ddigidol, data a thechnoleg y Bwrdd Iechyd. Mae ei rôl yn canolbwyntio ar drawsnewid darpariaeth iechyd a gofal trwy arloesi digidol, gan sicrhau bod technoleg a data yn gyrru effeithlonrwydd, gwella gwasanaethau a chanlyniadau i gleifion. Elfen graidd o hyn yw sicrhau cyllid ar gyfer datblygu a gweithredu strategaeth Cofnod Iechyd Electronig (EHR) y Bwrdd Iechyd, gan weithio’n agos â Llywodraeth Cymru a chyrff cenedlaethol y GIG i foderneiddio seilwaith digidol a galluogi gofal diogel, effeithiol ac integredig i boblogaeth Gogledd Cymru.
Gyrfa a Llwyddiannau
Mae gan Dylan dros 30 mlynedd o brofiad arweinyddiaeth ddigidol, trawsnewid ac integreiddio systemau Rhaglenni Iechyd, Llywodraeth Leol a Chenedlaethol. Cyn ymuno â BIPBC, roedd ganddo rolau arwain gweithredol mewn ymddiriedolaethau GIG, Systemau Gofal Integredig, a Llywodraeth Leol. Fel CDIO yn Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbytai Addysgu Efrog a Scarborough, sicrhaodd £79m ar gyfer strategaeth Cofnod Cleifion Electronig (EPR) rhanbarthol, gan helpu i uno gofal digidol nifer o ddarparwyr.
Yn ystod ei gyfnod fel Prif Swyddog Digidol a Gwybodaeth Cyngor Dinas Leeds a Phartneriaeth GIG Leeds, arweiniodd Dylan y gwaith o greu Cofnod Gofal Leeds, cofnod cleifion cwbl integredig cyntaf y DU, ar gyfer y ddinas gyfan. Mae’r system bellach ar gael o 100% o leoliadau gofal yn y ddinas ac ar draws Sefydliadau Iechyd, Llywodraeth Leol a Thrydydd Sector. Roedd Dylan yn allweddol wrth sefydlu Cofnod Gofal Swydd Efrog a Humber, sydd ers hynny wedi'i ddefnyddio mewn naw bwrdd gofal integredig arall.
Mae Dylan yn Gymrawd Cymdeithas Cyfrifiaduron Prydain (FBCS) ac mae’n cael ei gydnabod yn un o arweinwyr digidol gorau’r DU. Bu yn rhestr 100 uchaf CIO y DU am dair blynedd yn olynol. Mae ei ymrwymiad i arweinyddiaeth gydweithredol, llywodraethu ac arloesi yn ymestyn y tu hwnt i ofal iechyd, gan ei fod hefyd yn Ymddiriedolwr i’r Gymdeithas Arloesedd, Technoleg a Moderneiddio ac yn Gyfarwyddwr Anweithredol i Gymdeithas Bêl-droed Gogledd-ddwyrain Cymru, sy’n cefnogi mentrau llywodraethiant a chyfranogiad ar draws y rhanbarth.
Yn frodor o Ogledd Cymru ac yn siaradwr Cymraeg, mae Dylan yn gwbl ymroddedig i sicrhau bod technoleg a data yn galluogi gofal cynaliadwy o ansawdd uchel, sy’n canolbwyntio ar y claf i holl bobl Gogledd Cymru.