Clara oedd Prif Swyddog Meddygol GIG Birmingham a Solihull.
Penodwyd Clara yn Feddyg Ymgynghorol yr Arennau yn Ysbytai Prifysgol Birmingham yn 2008 lle bu'n arbenigo mewn gofalu am gleifion ar ddialysis.
Ers tro byd mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn gofalu am gleifion â chyflyrau iechyd hirdymor, gan gydnabod yr angen am ofal cydgysylltiedig ar draws gwasanaethau i sicrhau'r canlyniadau iechyd gorau i gleifion a'r boblogaeth.
Fel Arweinydd Meddygol rhaglen frechu rhag COVID-19 Birmingham a Solihull, arweiniodd ar y cydweithrediad clinigol a oedd yn ofynnol er mwyn sicrhau llwyddiant y rhaglen.
Ysgogodd y profiadau hyn o weithio ar systemau cydgysylltiedig iddi ymgymryd â rôl arweinyddiaeth glinigol ehangach a chafodd ei phenodi yn Brif Swyddog Meddygol Bwrdd Gofal Integredig Birmingham a Solihull ym mis Mai 2022.
Fel CMO, mae Clara wedi canolbwyntio'n benodol ar ansawdd, arweinyddiaeth glinigol gydgysylltiedig a thrawsnewid llwybrau clinigol ar draws y system o fewn gofal wedi'i gynllunio a gofal heb ei gynllunio.
Ar ôl ymgymryd â swydd Cyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol dros Gyllid a Gwerth yn Ysbytai Prifysgol Birmingham, mae gan Clara ddiddordeb mewn stiwardiaeth glinigol a sicrhau'r gwerth gorau am arian ym maes iechyd a gofal. Mae hefyd wedi ymgymryd â rolau cenedlaethol yn y maes arennol o fewn GIG Lloegr, gan gynnwys arwain y gymuned arennol trwy don gyntaf COVID-19 a sefydlu'r Rhaglen Genedlaethol Trawsnewid Gofal yr Arennau. Mae ganddi Gymrodoriaeth Cenhedlaeth Q y Sefydliad Iechyd a Doethuriaeth mewn Imiwnoleg o Brifysgol Birmingham.