Neidio i'r prif gynnwy

Carol Shillabeer

Penodwyd Carol Shillabeer yn Brif Weithredwr interim Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ym mis Mai 2023 ac ymgymerodd â’r rôl yn barhaol yn gynnar yn 2024. Mae’n nyrs gofrestredig gyda chefndir mewn uwch swyddi clinigol a rheolaethol ym maes gwasanaethau menywod a phlant, iechyd meddwl a meddygaeth gyffredinol. Mae gan Carol hefyd gefndir helaeth mewn gweithio mewn partneriaeth a datblygiad sefydliadol, ac mae wedi ymrwymo i weithio gyda staff, partneriaid a chymunedau i lunio a chyflawni canlyniadau gwell.

Cyn ymuno â BIPBC, Carol Shillabeer oedd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ym Mhowys o 2015 ar ôl ymuno â’r bwrdd iechyd fel Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio yn 2009.

Cyn hynny roedd Carol yn Aelod Cymru ac yn Is-Gadeirydd y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, rheoleiddiwr nyrsio a bydwreigiaeth y DU. Hi oedd Cadeirydd Rhaglen Frechu COVID-19 Cymru, a Chadeirydd y Rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc a noddir gan y Llywodraeth sy’n arwain dulliau o wella lles emosiynol ac iechyd meddwl plant, pobl ifanc a’u teuluoedd.

Ar hyn o bryd Carol yw Prif Weithredwr Arweiniol GIG Cymru ar gyfer Iechyd Meddwl, Iechyd Menywod, Gofal Cymunedol a Chymhleth.

Mae gan Carol MSc mewn Rheoli Gwasanaeth Iechyd o Brifysgol Caerdydd ac mae'n gyn Ysgolor Arweinyddiaeth Sefydliad Florence Nightingale.