Neidio i'r prif gynnwy

Angela Wood

Yn rhinwedd ei swydd fel Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth, mae Angela yn gyfrifol am sicrhau gwasanaethau nyrsio a bydwreigiaeth o ansawdd uchel ym mhob lleoliad, gan gynnwys ysbytai cyffredinol dosbarth, ysbytai cymunedol a gwasanaethau cymunedol.

Mae ei rôl yn cynnwys cynllunio strategol, datblygu polisi a’i roi ar waith er mwyn gwella gofal i gleifion, goruchwyliaeth glinigol, ac ymgysylltiad â staff. Mae gan Angela gyfrifoldeb dros ddiogelwch cleifion, ansawdd, a phrofiad y claf, ynghyd â diogelu, rheoli heintiau ac addysg nyrsio, y gweithlu a rheoleiddio. Nod cyfarwyddiaeth Angela yw cefnogi nyrsys a bydwragedd y sefydliad i sicrhau rhagoriaeth wrth ddarparu gofal iechyd, lleihau anghydraddoldebau iechyd, a gwella bywydau’r boblogaeth leol trwy arferion arloesol a datblygiad proffesiynol parhaus.

Mae dylanwad Angela ar arferion nyrsio yn amlwg trwy ei mentrau strategol, ei harweiniad wrth wella ansawdd, a'i hymroddiad i wella gofal i gleifion a datblygu staff. Mae ei hymdrechion wedi arwain at welliannau y gellir eu mesur o ran gofal iechyd ac effeithlonrwydd sefydliadol.

Llwyddiannau

Mae gan Angela hanes o lwyddiant wrth ysgogi gwelliannau sylweddol mewn systemau gofal iechyd a chanlyniadau i gleifion. Mae hi wedi lleihau nifer y swyddi nyrsio gwag yn BIPBC trwy roi amryw o fentrau recriwtio a chadw ar waith, gan gynnwys sefydlu Rhaglen Recriwtio Nyrsys a Addysgir yn Rhyngwladol (IEN). Llwyddodd hefyd i sicrhau cyllid i gynyddu nifer y sefydliadau nyrsio a gwella diogelwch cleifion fel rhan o adolygiadau Deddf Lefelau Staff Nyrsio Cymru. Mae Angela wedi arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu dangosfwrdd matrics ar gyfer mesur ac adrodd ar ddangosyddion ansawdd a safonau gofal, ac ailgynllunio trefniadau llywodraethiant ar gyfer adrodd ar gwynion a digwyddiadau. Arweiniodd y gwaith hwn at wella cydymffurfiaeth â safonau cenedlaethol.

Wrth lansio mentrau ymgysylltu nyrsio, gwobrau ac ymgyrchoedd, mae Angela wedi gwella gwelededd staff a chyfathrebu yn sylweddol. Mae ei dylanwad yn ymestyn i bolisïau cenedlaethol, gan gynnwys cyflwyno rôl Cydymaith Nyrsio Cofrestredig yng Nghymru, sy’n arddangos ei gallu i ysgogi newid a gwella arferion gofal iechyd ar raddfa ehangach.

Mae Angela hefyd wedi cyflawni sawl rôl arwain allweddol mewn nifer o sefydliadau gofal iechyd ledled y DU. 

Mae ei rolau blaenorol yn cynnwys arwain ymatebion i’r pandemig, gwella sgorau graddio’r Comisiwn Ansawdd Gwella, a gweithredu strategaethau gofal cleifion arloesol mewn nifer o ymddiriedolaethau’r GIG. 

Gweithiodd Angela gyda Systemau Gofal Integredig a thimau ardal GIG Lloegr/NHS Improvement, gan oruchwylio a chynnig cyngor i sicrhau gofal o ansawdd uchel yn ystod y cyfnod pontio.

Bu Angela yn cydlynu ymateb Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbyty Rotherham i'r pandemig, gan gychwyn arferion atal a rheoli heintiau er mwyn cefnogi cleifion a staff. Arweiniodd hyn at lai o salwch ymhlith staff a chydymffurfiaeth lawn â safonau'r Comisiwn Ansawdd Gofal a GIG Lloegr. Bu hefyd yn adolygu sefydliadau nyrsio’r Ymddiriedolaeth, gan recriwtio nyrsys cofrestredig ac anghofrestredig i swyddi gwag. Yn rhinwedd ei swydd fel Prif Nyrs ICS arweiniol y Gweithlu yn Ne Swydd Efrog a Bassetlaw, datblygodd raglen i ehangu’r gweithlu nyrsio drwy gynyddu a chydlynu prosesau recriwtio rhyngwladol, nyrsys yn dychwelyd i ymarfer, ac ehangu lleoliadau.

Cafodd Angela secondiad gan GIG Lloegr i Ymddiriedolaeth a oedd mewn mesurau arbennig dwbl ac wedi’i graddio'n annigonol lle bu’n cynnig ei chymorth, ei gwybodaeth a’i phrofiad sylweddol. Datblygodd Angela fethodoleg ddiwygiedig ar gyfer adrodd am eithriadau i sicrhau staffio diogel a mapiodd raglen newid sefydliadol gan ddefnyddio cymdeithion nyrsio i ddatrys problemau’r gweithlu mewn ffordd gydgysylltiedig a chynaliadwy. Adolygodd y gwaith o fonitro ac adrodd ar niwed i gleifion, gan sefydlu a gweithredu strategaeth lleihau niwed i gleifion a sicrhau gostyngiad o 50% mewn Briwiau Pwysedd gradd 2 a 3. Rhoddodd Angela arweiniad a chyfeiriad i'r timau gweithrediadau safle a nyrsio yn ystod 3/4 diwrnod Lefel Uwchgyfeirio Pwysau Gweithredol (OPEL), gan wella llif a chynorthwyo'r Ymddiriedolaeth i gyrraedd safle 12 yn y rhestr Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys a oedd wedi gwella fwyaf yn y wlad.

Mae arddull Angela wrth arwain yn gyfuniad o fod yn agos-atoch, gweledigaeth strategol, ymrwymiad i wella ansawdd, llywodraethu effeithiol, arloesedd, ysbrydoliaeth, cydweithio a thosturi. 

Penodwyd Dr Sreeman Andole yn Gyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Dros Dro ac ymunodd â'r Bwrdd Iechyd ar 1 Rhagfyr.