Mae Cynghrair Gofal Iechyd y Cyfamod Cyn-filwyr (VCHA) yn grŵp o ddarparwyr GIG. Gan gynnwys; Ymddiriedolaethau acíwt, iechyd meddwl, cymunedol ac ambiwlans – sydd wedi cytuno i fod yn esiamplau o’r gofal a’r cymorth gorau i gymuned y lluoedd arfog (boed yn Rheolaidd, yn filwyr Wrth Gefn, yn Gyn-filwyr, yn briod neu’n ddibynyddion).
Rydym yn gweithio tuag at achrediad Veteran Aware i sicrhau nad yw cyn-filwyr a'u teuluoedd ar draws Gogledd Cymru yn wynebu unrhyw anfantais wrth ddefnyddio ein gwasanaethau. Hefyd i wella gofal cyn-filwyr o fewn y GIG yng ngogledd Cymru fel rhan o Gynghrair Gofal Iechyd y Cyfamod i Gyn-filwyr (VCHA).
Mae model Veteran Aware yn annog darparwyr i nodi’r cleifion hynny sy’n gweithio ar hyn o bryd, neu sydd wedi gweithio yn y fyddin, yn ogystal â theuluoedd y lluoedd arfog, er mwyn sicrhau nad ydynt dan anfantais yn y gofal y maent yn ei dderbyn a, lle bo modd, eu bod yn cael gofal personol a chanlyniadau cleifion gwell.
Os ydych chi'n Gyn-filwr neu'n gwasanaethu fel Milwr Wrth Gefn y Llu Arfog ar hyn o bryd, rhowch wybod i'ch meddyg teulu fel y gallwn eich gwasanaethu'n well.