Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus 2024: Gogledd Cymru ar Garlam

Bod yn actif yn ein bywydau bob dydd yw un o’r prif ffactorau sy’n arwain at wella iechyd a lles a lleihau’r risg o farwolaeth gynamserol

Pan fyddwn yn symud mwy, mae hyn o fudd i’n hiechyd corfforol a meddyliol a gall wneud i ni deimlo’n well, yn ogystal â lleihau straen a phryder a gwella lefelau absenoldeb oherwydd salwch yn y gweithle. Hyd yn oed ar lefel isel, mae bod yn actif o ddydd i ddydd yn cynnig ystod eang o fanteision, yn enwedig mewn perthynas â lles meddyliol, ac mae hefyd yn ein helpu i fyw bywydau hapusach ac iachach.

Gall hyn gynnwys ystod eang o weithgareddau mewn unrhyw leoliad, megis chwarae, symud o gwmpas yn y cartref neu’r ardd, teithio llesol, gweithgareddau hamdden yn yr awyr agored, a chwaraeon. Fodd bynnag, mae’r dystiolaeth yn awgrymu ein bod yn wynebu argyfwng gweithgarwch corfforol, lle mae tueddiadau diweddar yn dangos bod pobl yng Ngogledd Cymru yn llai actif.

Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae o ran bod yn fwy actif

Trwy arwain a dylanwadu ar eraill trwy ein hymddygiad a’n harferion ein hunain, gallwn annog newid fel bod symud mwy a bod yn actif yn dod yn norm i bawb sy’n byw ac yn gweithio yng Ngogledd Cymru.

Darllenwch adroddiad eleni ar gyfer Gogledd Cymru gan y Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus, a gymeradwywyd gan y Bwrdd yn ei gyfarfod ym mis Tachwedd 2024, isod.