Mae blociau adeiladu iechyd a llesiant yn siapio ein bywydau ymhell cyn i ni fynd yn agos at glinig neu ysbyty
Yng Ngogledd Cymru, rydyn ni’n ffodus i fod â chymunedau cryf, amgylcheddau naturiol cyfoethog, ac uchelgais ar y cyd i wella iechyd i bawb.
Ond rydyn ni hefyd yn wynebu anghydraddoldebau parhaus. Nid oes gan bawb yr un mynediad at flociau adeiladu iechyd – blociau adeiladu fel y cartrefi rydyn ni’n byw ynddynt, y swyddi rydyn ni’n eu gwneud, y cymunedau rydyn ni’n perthyn iddynt, a’r cyfleoedd sydd gennym i ffynnu. I rai, mae’r sylfeini’n fregus neu ar goll yn gyfan gwbl.
Mae adroddiad Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus eleni yn nodi sut gallwn newid hynny – drwy weithio gyda’n gilydd ar draws sectorau a gwrando ar gymunedau. Yn hytrach na chanolbwyntio ar ddiffygion, rydym eisiau cryfhau’r blociau adeiladu hyn o fewn popeth a wnawn.
Nid yw iechyd yn cael ei greu ar ei ben ei hun. Mae’r adroddiad hwn yn galw – ar wasanaethau cyhoeddus, cymunedau ac unigolion – i weithredu er mwyn adeiladu iechyd gyda’n gilydd, fesul bloc, ar gyfer dyfodol tecach ac iachach.