Dyma gipolwg ar y gwasanaethau y gwnaeth ein staff, a'n partneriaid o dan gontract, eu cyflwyno yn ystod 2024/25. Mae’r rhan fwyaf o gysylltiadau cleifion â gwasanaethau iechyd yn digwydd yn y gymuned – er enghraifft mewn practisau meddygon teulu, fferyllfeydd neu gartrefi cleifion eu hunain. Mae cyfran fawr o’r gwaith hwn yn cael ei wneud gan gontractwyr annibynnol (fel practisau meddygon teulu a deintyddion sy’n cael eu rhedeg gan y partneriaid) neu gwmnïau preifat (fel fferyllfeydd y stryd fawr), o dan gontractau gyda’r Bwrdd Iechyd.
Mae'r ffigur diweddaraf sydd ar gael yn 2024/25 yn dangos gwelliant parhaus o ran canran y Practisau Cyffredinol (Meddygfeydd) sydd wedi cyflawni'r holl safonau a amlinellir yn y Safonau Mynediad Cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau meddygol cyffredinol yn ystod oriau. Mae'r sefydliad wedi newid o fod y Bwrdd Iechyd sy'n perfformio waethaf yn 2020/21 ar 59.8% i'r ail un gorau yn 2023/24 ar 99%. Disgwylir i lefel y perfformiad hwn godi unwaith eto nes cydymffurfio'n llawn ar 100% pan gaiff ffigurau 2024/25 eu rhyddhau.
Mae fferyllfeydd cymunedol hefyd wedi cyflawni rôl allweddol o ran rhoi cymorth i bobl ledled Gogledd Cymru, a meddygon teulu, trwy leihau nifer yr achosion at ddibenion meddyginiaeth. Y llynedd, cafodd 30,900 o ymgynghoriadau rhagnodi annibynnol gyda fferyllwyr eu cynnal o gymharu â'r targed o 27,835 a graddiwyd PBC fel y bwrdd iechyd â'r perfformiad gorau yng Nghymru o ran y mesur hwn. Hefyd, gwnaeth nifer yr ymgynghoriadau gyda fferyllwyr fel rhan o'r Cynllun Anhwylderau Cyffredin godi i ryw 8,000 y mis yn 2024/25 o gymharu â rhyw 5,000 y mis yn 2022/23. Mae gwasanaethau ysbyty yn cael eu rheoli a'u rhedeg yn uniongyrchol gan y Bwrdd Iechyd.
Yn ystod 2024/25, yn ein hysbytai, gwelsom:
Yn 2024/25, roedd 5,606 o enedigaethau. Mae hyn yn is o gymharu â 2023 (5,786) ac yn unol â chyfradd genedigaethau is yng Ngogledd Cymru.