Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg ar Berfformiad

Mae blwyddyn adrodd 2024/25 wedi bod yn gyfnod allweddol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, wedi'i nodi gan gynnydd sylweddol a heriau parhaus. Yr adeg yma o'r flwyddyn y llynedd, fel Bwrdd Iechyd, gwnaethom amlinellu cynllun i wella perfformiad ar draws nifer o feysydd a ddaeth yn destun uwchgyfeirio ar y lefel uchaf bosibl - Mesurau Arbennig - gan Lywodraeth Cymru. Nod y cynllun hwn oedd mynd i'r afael â materion yn ymwneud â llywodraethu ac arweinyddiaeth ac yna creu sail gadarn y gallai'r Bwrdd Iechyd ganolbwyntio ei ymdrechion oddi arni i wella ei berfformiad yn effeithiol.

Mae llawer wedi newid a gwnaed cynnydd da dros y ddwy flynedd diwethaf yn cynnwys sefydlu Bwrdd, strwythur llywodraethu, portffolio newid, model gweithredu, diwylliant a strategaeth newydd. Yr her gychwynnol oedd penodi a sefydlu Bwrdd newydd, dan arweiniad Cadeirydd a Phrif Weithredwr newydd sydd wedi bod mewn swyddi parhaol ers dechrau 2024 erbyn hyn. Roedd hyn yn pennu'r ffocws a'r blaenoriaethau cychwynnol. Cafodd hyn ei ategu trwy recriwtio Aelodau Annibynnol yn llwyddiannus ac adlewyrchwyd gwelliant yng ngwerthusiad diweddaraf Archwilio Cymru o effeithiolrwydd y Bwrdd. Ers hynny, mae'r Bwrdd Iechyd wedi gweithio'n galed ar y blaenoriaethau a bennwyd gan Lywodraeth Cymru, gan wneud cynnydd o ran y meini prawf isgyfeirio cysylltiedig gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru.

Yn 2024/25, cafodd camau gweithredu Mesurau Arbennig eu hymgorffori i Gynllun Cyflawni Blynyddol y Bwrdd Iechyd er mwyn meddu ar gynllun unigol ar gyfer y sefydliad sy'n cwmpasu pob un o'i flaenoriaethau. Arweiniodd yr esblygiad hwn at aeddfedu'r Bwrdd i gynnwys Bwrdd sy'n gweithredu'n dda gan arwain at greu uchelgeisiau yn y tymor hwy i greu sefydliad effeithiol.

Yn ystod y cyfnod hwn, mae gwelliannau wedi cael eu gwneud ar draws nifer o feysydd gan gynnwys y ffordd y caiff y Bwrdd ei arwain, dulliau rheoli ariannol, prosesau llywodraethu ac ansawdd gofal.

Mae uchafbwyntiau dros y flwyddyn ddiwethaf yn cynnwys:

  • Cynnydd o ran adferiad gofal wedi'i gynllunio, gofal brys a gofal argyfwng, a blaenoriaethau iechyd y cyhoedd
  • Buddsoddi mewn seilwaith, gan gynnwys hwb orthopedig newydd yn Ysbyty Llandudno
  • Datblygu cynlluniau ar gyfer arloesiadau digidol, gan gynnwys achos busnes sydd wedi'i gyllido'n llwyddiannus ar gyfer cofnodion iechyd electronig mewn gwasanaethau iechyd meddwl
  • Cyflwyno llawdriniaeth ar y ben-glin â chymorth robot
  • Croesawu'r garfan gyntaf o fyfyrwyr i Ysgol Feddygol Gogledd Cymru
  • Cyflwyno Cynllun Tymor Canolig Integredig â chydbwysedd ariannol am y tro cyntaf
  • Atgyfnerthu partneriaethau ar draws y system iechyd a gofal

Er bod llawer o gynnydd wedi'i wneud o ran gosod y sylfeini angenrheidiol i'r sefydliad fod yn llwyddiannus yn y tymor hir, bydd yn cymryd amser i ymgorffori llawer o'r gwaith hwn ac i'w wneud yn gywir. Mae'r Bwrdd Iechyd yn cydnabod yn llwyr er bod creu'r sylfeini hyn yn gywir yn hollbwysig i yrru gwelliant yn ei flaen, mae pobl yn dal i aros yn rhy hir yn rhy aml i gael y gofal a'r cymorth sydd eu hangen arnynt. Mae'n hollbwysig bod gan ein cymunedau fynediad at wasanaeth a chymorth o'r ansawdd maent yn eu disgwyl ac yn eu haeddu a dyma ble yr ydym yn canolbwyntio.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn cydnabod yr heriau sydd ynghlwm wrth greu sefydliad cynaliadwy yn y tymor hir gan hefyd fynd i'r afael â rhai o'r problemau perfformiad yn y tymor byrrach. Er y bydd hyn bob amser yn anodd ei reoli, mae llawer o'r sylfeini sefydliadol bellach yn eu lle i gynorthwyo mynd i'r afael â'r ddau fater ar yr un pryd.

Dyma'r unig ffordd y bydd y sefydliad yn cyflawni ei bwrpas yn llwyddiannus i wella iechyd a lles ac i gynnig gofal ardderchog i bobl Gogledd Cymru. Mae'r Bwrdd Iechyd yn gweithio gyda'n partneriaid, yn ogystal â gwrando ar brofiadau ein cleifion a'n cymunedau a dysgu ohonynt, i ddatblygu'r cynlluniau y mae angen i ni eu datblygu ac i ddarparu gwasanaethau cynaliadwy o ansawdd uchel ar gyfer y dyfodol.