Y Bwrdd Iechyd yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, sydd â chyllideb gwerth £2.13 biliwn a gweithlu o 20,100 o staff ar ddiwedd mis Mawrth 2025. System iechyd integredig yw’r Bwrdd Iechyd sy’n ymdrechu dros roi gofal tosturiol ardderchog wedi’i gyflwyno mewn partneriaeth â’r cyhoedd a sefydliadau statudol a thrydydd sector eraill. Rydym yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau gofal iechyd i fwy na 700,000 o bobl ledled chwe sir gogledd Cymru (Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam). Mae hyn yn cynnwys darparu iechyd sylfaenol, iechyd cymunedol ac iechyd meddwl, yn ogystal â gwasanaethau ysbyty cyffredinol.
Mewn lleoliadau gofal sylfaenol, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig gofal y GIG trwy gyfuniad o gontractwyr annibynnol a gwasanaethau a ddarperir yn uniongyrchol ar draws Gogledd Cymru. Mae'r rhwydwaith hwn o wasanaethau gofal sylfaenol yn cynnwys 95 o bractisau meddygol (“practisau meddygon teulu”), 71 o bractisau deintyddol ac orthodontig, 70 o bractisau optometreg/optegydd a 144 o fferyllfeydd cymunedol.
Mewn lleoliadau cymunedol, mae’r Bwrdd Iechyd yn darparu ystod eang o wasanaethau cymunedol y GIG gan gynnwys nyrsio yn y gymuned, gwasanaeth ymwelwyr iechyd, ffisiotherapi, a gofal lliniarol, trwy rwydwaith o ganolfannau iechyd, clinigau, canolfannau timau cymunedol ac 17 o ysbytai cymunedol, a chânt eu cydlynu ar sail 14 o 'ardaloedd lleol'. Caiff gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol eu darparu mewn canolfannau ledled Gogledd Cymru, â chymorth unedau iechyd meddwl ar gyfer cleifion preswyl ledled y rhanbarth.
Mae’r Bwrdd Iechyd hefyd yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol ac iechyd meddwl i boblogaeth carchar CEF Berwyn yn Wrecsam.
Darperir gwasanaethau ysbytai cyffredinol mewn tri phrif safle, sef Ysbyty Gwynedd ym Mangor, Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan ac Ysbyty Maelor Wrecsam, a chaiff rhai gwasanaethau llawfeddygol eu darparu yn Abergele a Llandudno hefyd. Lle na ellir darparu gofal gan y GIG yng Ngogledd Cymru, megis ar gyfer rhai cyflyrau prin neu wasanaethau tra arbenigol, mae’r Bwrdd Iechyd yn cydweithio â darparwyr eraill y GIG yng Nghymru a Lloegr, i sicrhau bod gan gleifion fynediad at y triniaethau arbenigol sydd eu hangen arnynt.
Rydym hefyd yn gyfrifol, trwy bartneriaeth, am wella iechyd a lles pobl leol drwy weithgareddau megis ein rhaglenni brechu llwyddiannus a gwasanaethau iechyd ar gyfer ysgolion.