Byw'n Well gyda Dementia - Arddangosiad Ffilm.
Cafodd cyfres newydd o ffilmiau gyda'r bwriad o greu gwell dealltwriaeth am ddementia ei harddangos yn ystod arddangosiad agoriadol yn Wrecsam.
Cafodd mwy na chant o westeion ragolwg arbennig o bum ffilm fer 'Byw'n Well gyda Dementia' yn sinema'r Odeon. Gwnaeth y gwesteion, yn cynnwys aelodau'r cyhoedd, staff iechyd a gofal cymdeithasol, fynychu arddangosiadau dydd a nos o'r ffilm sydd â'r nod o godi ymwybyddiaeth a rhoi cymorth i bobl sy'n byw gyda rhywun sydd â dementia neu sy'n gofalu am rywun sydd â dementia.
Yr Athro Tracey Williamson, Nyrs Ymgynghorol Dementia, a gafodd y syniad ar gyfer y ffilmiau a chawsant eu hariannu gan y Bwrdd Iechyd. Cafodd yr arddangosiadau agoriadol eu hariannu trwy haelioni Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru, a oedd yn awyddus i'r ffilmiau gael eu rhannu gymaint â phosibl ar draws Gogledd Cymru a thu hwnt.