'Yn gyflym, yn effeithlon a hollol ddi-boen' - Cleifion yn diolch i dîm ysbyty am gyflawni'r weithred gyntaf ar bledren yng Nghymru
Mae dau glaf yn Ysbyty Maelor, Wrecsam wedi diolch i'r tîm meddygol am driniaeth 'gyflym a hollol ddi-boen', y gyntaf o'i bath yng Nghymru sy'n defnyddio laser arloesol i gael gwared ar ardaloedd amheus neu diwmorau ar y bledren.
Mae’r driniaeth yn defnyddio Abladiad Laser Traws Wrethrol (TULA), sef archwiliad o'r bledren gan ddefnyddio camera ar diwb tenau hyblyg â laser i drin y bledren.
Roedd gan John James, 84 oed, dyfiannau cyson ar ei bledren am fwy na 15 mlynedd a thynnwyd y rhain yn flaenorol trwy weithred lawfeddygol lawn o dan anesthetig cyffredinol, gan gymryd diwrnod cyfan yn yr ysbyty a mwy o amser i adfer.
John oedd un o'r rhai cyntaf i gael eu tynnu gyda'r laser. Mae gan Elizabeth Comer, 82 oed, dyfiannau cyson ar ei bledren hefyd ac roedd y rhain wedi cael eu tynnu'n flaenorol o dan anesthetig lleol.