Uned prawf gwaed newydd yn lleihau amseroedd aros o wythnosau i ddyddiau.
Roedd agor Uned Fflebotomi newydd yn Wrecsam yn golygu bod arhosiad cleifion am apwyntiad prawf gwaed wedi lleihau o chwe wythnos i dri diwrnod.
Gwnaeth yr uned, o'r enw Tŷ Madoc, agor yn Ysbyty Maelor Wrecsam gyda chwe chadair newydd ar gyfer cymryd gwaed gan gleifion, ac mae hefyd yn cynnwys apwyntiadau gyda'r hwyr.
Yn ystod y pandemig, gwnaeth amseroedd aros am brofion gwaed gynyddu i chwe wythnos ar gyfartaledd gan fod llai o leoliadau'n cynnig apwyntiadau am brofion gwaed. Gwnaeth Tŷ Madoc agor er mwyn helpu i ddelio â galw ac anghenion cynyddol cleifion yn yr ardal, ac ers iddo agor, mae 15,000 o brofion gwaed yn cael eu cynnal yn Wrecsam yn unig, gan helpu i leihau'r amseroedd aros i gleifion.