'Roedd fy ngŵr yn meddwl fy mod i'n marw' - sut y gwnaeth y Clinig Diagnosis Cyflym helpu nain i drechu canser
Roedd teulu nain yn meddwl y byddai'n marw pan wnaeth ei phwysau ostwng o bron i 25 y cant mewn mater o ddeufis yn unig. Fodd bynnag, gwnaeth ei meddyg teulu ei chyfeirio at Glinig Diagnosis Cyflym Ysbyty Glan Clwyd. Darganfu fod arni ganser yr aren a phennwyd rhaglen driniaeth iddi o fewn naw niwrnod.
Yn ffodus, tynnwyd aren ganseraidd Jean Machin, sy'n gyn ysgrifenyddes feddygol o Ruddlan, bum wythnos ar ôl iddi ymweld â'r clinig.