Ni ydy'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru. Mae ein cyllideb yn £1.87 biliwn ac mae gennym ni dros 19,000 o staff. Rydym yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau gofal iechyd ar gyfer mwy na 700,000 o bobl ar draws chwe sir gogledd Cymru (Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam). Mae'r Bwrdd Iechyd yn cydlynu gwaith 96 o bractisau meddygon teulu, a gwasanaethau'r GIG sy'n cael eu darparu gan 78 o bractisau deintyddol ac orthodonteg, 70 o bractisau optometreg ac optegwyr a 145 o fferyllfeydd yng ngogledd Cymru.