Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad: Medi 21 2026 

Gall pobl ifanc sy’n gymwys alw heibio un o’n clinigau er mwyn derbyn dos cyntaf neu ail ddos o’r brechlyn rhag meningitis B

Mae'r brechlyn MenB yn cael ei gynnig i bobl ifanc rhwng 17 a 18 oed (a aned rhwng 1 Medi 2007 a 31 Awst 2008) ac unrhyw un o dan 25 oed a fydd yn dechrau ar gwrs preswyl mewn prifysgol neu goleg am y tro cyntaf yn ddiweddarach eleni.

Mae clinigau brechu rhag MenB galw heibio bellach ar agor er mwyn caniatáu i fwy o bobl ifanc gael eu brechu. Mae brechu galw heibio ar gael er mwyn derbyn dosiau cyntaf ac ail ddosiau o’r brechlyn.

Mae angen dau ddos o'r brechlyn i'ch amddiffyn eich hun yn llawn. Sicrhewch eich bod yn cael y ddau ddos.

Bydd pobl ifanc yn derbyn apwyntiad ar gyfer ail ddos ar ôl derbyn eu dos cyntaf. Mae’r ddau ddos yn cael eu rhoi rhyw bedair wythnos ar wahân, fel arfer. 

Os ydych chi wedi methu apwyntiad ar gyfer eich ail ddos o’r brechlyn MenB, gallwch alw heibio un o’n clinigau er mwyn dal i fyny. Peidiwch â cheisio derbyn eich ail ddos tan 28 diwrnod ar ôl i chi gael eich un cyntaf.

Os cawsoch eich dos cyntaf y tu allan i Gymru, dewch â thystiolaeth o’ch statws brechu gyda chi os oes modd – e.e. y cerdyn cofnodi brechu rhag MenB a gawsoch yn dilyn eich dos cyntaf, neu ffotograff ohono.

Bydd pobl ifanc sydd wedi colli brechiadau eraill a argymhellir hefyd yn cael cynnig y cyfle i ddal i fyny yn y clinigau hyn.

Gwnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi'r ymgyrch frechu ragofalus yn mis Mehefin, yn dilyn brigiad o achosion o MenB yng Nghaint yn gynharach eleni lle aeth 21 o bobl yn sâl a lle bu i ddau unigolyn ifanc farw, er tristwch mawr.
 

Mwy o wybodaeth am eich brechlyn

Grwpiau cymwys:

  • Pob unigolyn 17 a 18 oed a anwyd rhwng 1 Medi 2007 a 31 Awst 2008 
    Cafodd llythyrau gwahoddiad eu hanfon at y grŵp hwn ddechrau mis Gorffennaf. Os nad oeddech yn gallu mynd i'ch apwyntiad neu os na wnaethoch dderbyn llythyr, cysylltwch â ni i drefnu apwyntiad neu ewch i un o'n clinigau brechu Men B galw heibio.
  • Pobl ifanc rhwng 18 a 25 oed (anwyd rhwng 21 Gorffenaf 2001 a 31 Awst 2007) a fydd yn dechrau cwrs prifysgol neu goleg preswyl am y tro cyntaf yr hydref hwn – h.y. myfyrwyr sy'n eu flwyddyn gyntaf, ond nid myfyrwyr sy'n dychwelyd yn eu hail flwyddyn neu flynyddoedd diweddarach 
    Cysylltwch â'r bwrdd iechyd er mwyn trefnu apwyntiad brechu, neu ewch i un o'n clinigau brechu Men B galw heibio. Dewch â thystiolaeth bod disgwyl i chi ddechrau ar eich blwyddyn gyntaf o gwrs preswyl mewn prifysgol neu goleg yr hydref hwn (e.e. copi o'ch cynnig neu lythyr cynnig dros dro).

Peidiwch â chysylltu â'ch meddygfa na'n timau imiwneiddio ysgolion i ofyn am y brechlyn MenB gan na fyddant yn gallu ei gynnig. 

Bydd yr ymgyrch yn mynd rhagddo am gyfnod cyfyngedig, gyda'r holl ddosau cyntaf wedi'u rhoi erbyn 31 Rhagfyr. Gallwch weld rhagor o wybodaeth, gan gynnwys Cwestiynau Cyffredin, gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
 

Cysylltwch â ni

Ar gyfer ymholiadau neu i drefnu brechiad ar gyfer pobl 18 i 25 oed cymwys, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt Brechu ar 03000 840004 neu e-bostiwch BCU.SROCovid19VaccinationProgramme@wales.nhs.uk.

Mae'r ganolfan gyswllt ar agor rhwng 9.30am a 5.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae ar gau ar benwythnosau ac ar wyliau banc.

Rhagor o wybodaeth am ffonio ein Canolfan Gyswllt Brechu.
 

Ynglŷn â llid yr ymennydd

Rydym yn argymell y dylai pobl ifanc, rhieni a theuluoedd ymgyfarwyddo ag arwyddion a symptomau llid yr ymennydd a sepsis. 

Gall y cyflyrau hyn ddatblygu'n gyflym a gall symptomau ysgafn droi’n salwch difrifol. Mae babanod, plant ifanc, pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc (yn enwedig y sawl sydd mewn lleoliadau ble ceir cyswllt agos megis colegau a phrifysgolion) yn wynebu mwy o berygl.
 

Brechu rhag llid yr ymennydd

Gall llid yr ymennydd bacteriol gael ei achosi gan nifer o wahanol fathau o facteria. Mae sawl brechiad yn yr amserlen brechiadau rheolaidd yng Nghymru yn cynnig amddiffyniad rhag llid yr ymennydd.

Y tu allan i'r rhaglen dargedig hon a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, nid yw’r GIG yn cynnig y brechlyn MenB yn rheolaidd i blant dros ddwy oed nac oedolion yng Nghymru ar hyn o bryd.  Peidiwch â chysylltu â'ch meddygfa, ein canolfannau brechu neu ein timau imiwneiddio ysgolion i ofyn am y brechlyn rhag Llid yr Ymennydd B (MenB).

Fel arfer, cynigir y brechiad MenACWY i blant ym Mlwyddyn 9 mewn clinigau a gynhelir yn yr ysgol. Gall plant ym mlwyddyn 9 neu uwch na chawsant y brechlyn MenACWY gysylltu â'n timau imiwneiddio ysgolion i drefnu i ddal i fyny. Gweler rhagor o fanylion am Brechiadau i bobl ifanc isod.

I sicrhau’r amddiffyniad gorau rhag salwch y gellir ei atal, mae'n hanfodol sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu holl frechiadau. 

Mae brechiadau'r GIG a gynigir yng Nghymru yn seiliedig ar argymhellion y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu a Llywodraeth Cymru. Mae manylion amserlen brechiadau arferol Cymru ar gael yma.
 

Cwestiynau cyffredin am brechu rhag llid yr ymennydd

Adolygir y dudalen hon yn rheolaidd a chaiff ei diweddaru pan fydd gwybodaeth newydd ar gael.
 

Diweddariadau ar ein rhaglenni brechu