Neidio i'r prif gynnwy

Ailfeddwl ein Ffolder Acordion Yfed

24/10/22
Teimlo'n well

Mae alcohol yn cael effaith gemegol yn eich ymennydd, a gall gael effaith negyddol fawr ar eich iechyd meddwl a lles. Gall yfed yn rheolaidd ac yn drwm fod yn gysylltiedig â symptomau iselder.

Er eich bod efallai'n teimlo bod diod ar ddiwedd dydd prysur neu lawn straen yn help i ymlacio, mae astudiaethau wedi dangos bod alcohol yn gwneud straen a phryder yn waeth - gan gynnwys os ydych chi'n teimlo'r sgil-effeithiau'r diwrnod neu'r diwrnodau canlynol.

Gall yfed ychydig yn llai a chael mwy o ddiwrnodau heb ddiod bob wythnos eich helpu i deimlo'n well, a gwella'ch iechyd yn y tymor hir.

24/10/22
Mwy o egni

Mae alcohol yn effeithio ar eich cwsg a'ch hwyliau - felly gall yfed yn drwm neu'n rheolaidd wneud i lawer o bobl deimlo'n flinedig, yn ddifywyd neu'n ddi-ffrwt.

Os ydych chi'n teimlo bod angen ychydig mwy o egni arnoch chi, ceisiwch yfed ychydig llai neu gael mwy o ddyddiau heb yfed o gwbl. Ar ôl rhai dyddiau'n unig, mae'r rhan fwyaf o bobl yn teimlo eu bod yn cysgu'n well a bod ganddynt fwy o egni.

Gall yfed llai o alcohol eich helpu i ganolbwyntio yn y gwaith hefyd, gan eich helpu i deimlo llai o straen a mwynhau gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.

24/10/22
Cysgu'n well

Mae alcohol yn eich system yn eich atal rhag cael noson dda o gwsg. Efallai y byddwch chi'n cysgu'n ysgafnach, yn deffro'n gynharach ac yn ei chael hi'n anodd syrthio'n ôl i gysgu ar ôl deffro.

Mae yfed llai o alcohol yn gallu eich helpu i gysgu – a bydd cysgu'n well yn eich helpu i deimlo’n well ac yn rhoi mwy o egni i chi.

Ar ôl rhai nosweithiau da o gwsg dwfn, mae'n bosibl y byddwch chi'n sylwi ar wahaniaeth mawr  a chadarnhaol yn y ffordd rydych chi'n teimlo.

24/10/22
Arbed arian

Os ydych chi erioed wedi cyfrifo faint rydych chi'n ei wario ar alcohol, byddwch chi'n gwybod bod yfed yn gallu bod yn ddrud.

Gall yfed llai olygu mwy o arian yn eich pwrs neu’ch waled  i’w wario ar y pethau gorau mewn bywyd – neu i sbwylio eich teulu a’ch anwyliaid.

24/10/22
Colli pwysau

Mae llawer o ddiodydd alcoholig yn uchel mewn calorïau ac mae llawer hefyd yn uchel mewn siwgr - er enghraifft, mae un peint o lager yn cynnwys yr un nifer o galorïau ag un darn o pizza.

Mae alcohol hefyd yn lleihau faint o fraster mae ein cyrff yn ei losgi ar gyfer egni, felly tra bod alcohol yn ein system rydyn ni'n dal ac yn storio mwy o fraster nag y byddwn ni os nad ydym ni'n yfed.

Bydd yfed llai yn lleihau'r calorïau gwag yr ydych yn ei fwyta, a gall eich helpu i golli pwysau fel rhan o ddeiet iach.

Dysgwch fwy am ein gwasanaethau Cymorth gyda'm Pwysau

24/10/22
Croen clir

Mae alcohol yn dadhydradu'r corff, gan gynnwys y croen. Os byddwch chi'n yfed gormod neu'n yfed yn rhy aml, gall wneud i'ch croen edrych yn llwyd a diflas neu'n llidus.

Mae yfed dŵr yn helpu rhoi lleithder yn ôl i'r croen ond bydd yfed llai o alcohol yn helpu i roi gwrid ar eich bochau, a gwneud i'ch croen edrych a theimlo'n llawnach ac yn iachach.

03/05/23
Os ydych chi'n ceisio beichiogi

Os ydych yn ystyried cael babi, cadw'n heini ac iach yw'r paratoad gorau posibl. Os ydych chi'n cynllunio beichiogrwydd, mae'n fwy diogel i chi beidio ag yfed unrhyw alcohol. Bydd hyn yn helpu i gadw'ch corff yn y cyflwr gorau posibl a lleihau'r risg o niweidio'ch babi.

Gall yfed effeithio ar ffrwythlondeb dynion a merched, gan ei gwneud yn anoddach i chi feichiogi.

Os ydych wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio dulliau atal cenhedlu oherwydd eich bod yn ceisio beichiogi, y cyngor gorau yw osgoi yfed alcohol oherwydd gallech feichiogi ar unwaith.

Os ydych yn cael triniaeth i gynorthwyo ffrwythlondeb, gall hyd yn oed yfed ysgafn leihau'r siawns o lwyddo. Gall yfed yn ormodol niweidio'r ŵy a'r sberm.

03/05/23
Os rydych yn feichiog

Gall yfed alcohol tra'n feichiog arwain at niwed hirdymor i'ch babi. Po fwyaf y byddwch yn yfed, y mwyaf yw'r risg. Bydd osgoi yfed alcohol tra'n feichiog yn lleihau'r risgiau hyn yn sylweddol ac yn cefnogi iechyd eich babi.

Mae eich bydwraig yno i wrando, eich cefnogi, a chynnig help ac arweiniad.

Os ydych yn pryderu y gallech fod yn ddibynnol ar alcohol, gall eich bydwraig drefnu i chi gael cymorth pellach gan fydwraig camddefnyddio sylweddau arbenigol.

03/05/23
Os oes gennych lawdriniaeth ar y gweill

Gall cadw mor ffit ac iach ag y gallwch cyn llawdriniaeth wedi'i chynllunio neu driniaeth feddygol helpu i leihau risgiau a gwella pa mor dda rydych chi'n gwella. Mae yfed alcohol cyn llawdriniaeth wedi'i gysylltu â chymhlethdodau â gwella clwyfau, heintiau, problemau'r galon a'r ysgyfaint, a gwaedu gormodol.

Faint bynnag yr ydych yn ei yfed, mae'n well torri lawr neu stopio cyn llawdriniaeth. Mae tystiolaeth yn awgrymu ei bod yn well peidio ag yfed alcohol am fis cyn eich triniaeth.

Mae yfed yn rheolaidd yn rhoi straen ar ein corff, gan gynnwys ein horganau hanfodol a'n system imiwnedd. Mae rhoi'r gorau i yfed yn cael gwared ar y straen hwn, gan ganiatáu i'n corff wella'n gyflymach.