24.02.2026
Mae cronfa newydd wedi ei sefydlu i gefnogi dioddefwyr canser yr ymennydd yng Ngogledd Cymru er cof am ferch, chwaer, modryb a ffrind annwyl.
Bydd Cronfa Goffa Angela Mary Bennett yn cael ei defnyddio i gefnogi cleifion canser yr ymennydd a'u teuluoedd drwy ysgwyddo’r baich ariannol sy’n deillio o deithio a lletya wrth ymweld ag anwyliaid sy'n derbyn gofal ymhell o’u cartref. Bydd y gronfa'n cael ei sefydlu trwy Awyr Las, Elusen y GIG ar gyfer Gogledd Cymru, a bydd hefyd yn galluogi gwella'r gofal a'r driniaeth sydd ar gael mewn ysbytai lleol trwy leddfu baich costau offer ychwanegol a gwasanaethau cyflenwol.
Bu farw Angela Mary Bennett ym mis Mawrth 2023, yn 47 oed, naw wythnos yn unig ar ôl cael diagnosis o diwmor yr ymennydd. Roedd teulu Angela yn dymuno sefydlu'r gronfa hon i gynorthwyo eraill yng Ngogledd Cymru sy’n cael eu heffeithio gan ddiagnosis o diwmor yr ymennydd gyda chostau a threfniadau ymweld ag aelodau'r teulu sy'n derbyn gofal arbenigol mewn ysbytai fel Canolfan Walton yn Lerpwl.
Dywedodd Nick Bennett, brawd Angela: “Pan glywsom am ddiagnosis Angela, roeddem ni fel teulu yn gefn i’n gilydd ac roeddwn i a fy mrawd Chris yn gallu sicrhau bod fy mam yn ymweld â hi yn Walton bob dydd. Dydyn ni ddim eisiau i unrhyw un heb rwydwaith cymorth yn agos i beidio â gallu gwneud yr un peth.”
Ychwanegodd Dyfed Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Cronfeydd Elusennol: “Gall fod yn anodd ac yn gostus i deuluoedd deithio er mwyn ymweld ag anwyliaid sy’n derbyn gofal y tu allan i Ogledd Cymru. Bydd y gronfa newydd hon er cof am Angela yn cynnig cymorth gyda chostau teithio a lletya i deuluoedd mewn cyfnod o angen, sydd y tu hwnt i’r hyn y gellir ei gynnig fel arfer gan y GIG.
"Rydym yn hynod ddiolchgar i’r teulu am gyfraniad mor hael er cof am Angela. Bydd yr arian a dderbyniwyd yn mynd ymhell ac yn gwneud gwahaniaeth i ddioddefwyr canser yr ymennydd a’u teuluoedd."
Bydd Nick a’i dri o blant hŷn yn rhedeg ras 10k Ynys Môn ar 1 Mawrth 2026, tua’r adeg y byddai wedi bod yn ben-blwydd ar Angela yn 50 oed.
Derbynnir rhoddion i Gronfa Goffa Angela Bennett drwy Awyr Las, yr Elusen GIG Gogledd Cymru, a thudalen JustGiving y gronfa: Angela Mary Bennett Memorial Fund - JustGiving