Mae Awyr Las yn helpu pobl ledled Gogledd Cymru i elwa o wasanaethau gwell gan y GIG pan fyddant eu hangen fwyaf.
Trwy’r elusen, gall pobl roi’n uniongyrchol i wardiau ac adrannau ein hysbytai yn ogystal â’r gwasanaethau gofal iechyd cymunedol sydd bwysicaf iddynt.
Mae rhoddion yn helpu i ariannu offer a chyfleusterau ychwanegol yn ein hysbytai a’r gymuned, gwella amgylcheddau ysbytai a chynnig mwy o gysur i gleifion, gan gynnwys therapïau cyflenwol. Maent hefyd yn cefnogi rhaglenni addysg ac ymchwil, mentrau lles staff a phrosiectau arbennig eraill sy’n mynd y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu.