Mae pêl-droediwr ifanc o Ogledd Cymru, a gafodd drawsblaniad aren a achubodd ei fywyd, yn dweud ei fod yn hynod ddiolchgar o fod wedi derbyn cymorth gan grŵp Cyfeillion Gofal Arennol yn Ysbyty Glan Clwyd – cronfa elusennol dan ofal Awyr Las, elusen GIG Gogledd Cymru. Fe wnaeth y cymorth hwn ei alluogi i deithio i'r Almaen fel rhan o Dîm Pêl-droed Trawsblaniadau Lloegr, a’u helpu i gipio Cwpan y Byd am y tro cyntaf erioed ym mis Medi 2026.
Bu staff yn Adran Gynaecoleg Ysbyty Maelor Wrecsam yn hynod ddiolchgar i dderbyn rhodd a adawodd claf yn ei hewyllys fel ffordd o ddiolch am y gofal rhagorol a gafodd trwy gydol ei thriniaeth ac ar ddiwedd ei bywyd.
Mae cronfa newydd wedi ei sefydlu i gefnogi dioddefwyr canser yr ymennydd yng Ngogledd Cymru er cof am ferch, chwaer, modryb a ffrind annwyl. Bydd Cronfa Goffa Angela Mary Bennett yn cael ei defnyddio i gefnogi cleifion canser yr ymennydd a'u teuluoedd drwy ysgwyddo’r baich ariannol sy’n deillio o deithio a lletya wrth ymweld ag anwyliaid sy'n derbyn gofal ymhell o’u cartref. Bydd y gronfa'n cael ei sefydlu trwy Awyr Las, Elusen y GIG ar gyfer Gogledd Cymru, a bydd hefyd yn galluogi gwella'r gofal a'r driniaeth sydd ar gael mewn ysbytai lleol trwy leddfu baich costau offer ychwanegol a gwasanaethau cyflenwol.
Mae Ysbyty Bryn Beryl a Chyfeillion yr Ysbyty wedi dathlu cwblhad adnewyddiad yr Ystafell Ddydd ar Ward Llynfor gyda te prynhawn arbennig a gynhaliwyd ar ddydd Gwener 30 Ionawr 2026. Gwnaethpwyd y gwelliannau’n bosibl diolch i rodd hael o dros £8,700 gan Gyfeillion Ysbyty Bryn Beryl. Mae’r cyllid hwn wedi cefnogi cyfres o welliannau hollbwysig, gan gynnwys lloriau, byrddau, cadeiriau, cypyrddau a llenni newydd.
Ar 27 Tachwedd 2025, agorwyd bloc llety Tŷ Enfys yn Ysbyty Gwynedd yn swyddogol yn dilyn gwaith adnewyddu a moderneiddio sylweddol, diolch i nawdd elusen leol, Gafael Llaw.
Mae Tŷ Enfys yn floc llety ar gyfer rhieni a gwarchodwyr plant sydd yn derbyn gofal a thriniaeth am gyfnod estynedig yn Ward Dewi, Ysbyty Gwynedd, yn cynnwys babanod sy’n derbyn gofal yn yr Uned Gofal Arbennig Babanod (SCBU). Mae’n caniatáu i rieni aros yn agos i’w plentyn heb y straeon o orfod teithio nol ac ymlaen.