Gadael rhodd er mwyn diolch am y gofal ardderchog a dderbyniwyd yn Adran Gynaecoleg Ysbyty Maelor Wrecsam

08.10.2026

Bu staff yn Adran Gynaecoleg Ysbyty Maelor Wrecsam yn hynod ddiolchgar i dderbyn rhodd a adawodd claf yn ei hewyllys fel ffordd o ddiolch am y gofal rhagorol a gafodd trwy gydol ei thriniaeth ac ar ddiwedd ei bywyd.

Derbyniodd Brenda Edwards, a fu farw er tristwch mawr ar 11 Mehefin 2025, ofal gan yr Uned Seren Wib a Ward Bromfield o adeg derbyn ei diagnosis canser yn 2020 a thrwy gydol ei thriniaeth dros y pum mlynedd nesaf.

Wrth siarad ag Awyr Las, roedd teulu Brenda yn awyddus i dynnu sylw at y gofal rhagorol yr oedd Brenda wedi'i gael gan yr holl staff y daeth ar eu traws trwy gydol ei thaith triniaeth; o'r Adran Achosion Brys, i'r nyrsys Macmillan, yr Uned Seren Wib a Ward Bromfield, a'i hysbrydolodd i adael rhodd mor hael yn ei hewyllys.

Dywedodd chwaer Brenda, Jeanne Walker: "Bu Brenda yn unigolyn arbennig iawn, bob amser yn llawn hwyl ac roedd ganddi angerdd gwirioneddol dros fywyd. 

"Pan dderbyniodd y diagnosis canser, a oedd yn ystod cyfnod clo Covid, roedd hi'n pryderu gymaint amdanom ni ag yr oedd hi amdani hi ei hun, yn ôl ei harfer - gwnaeth ddelio â phopeth yn ystod ei thriniaeth gyda nerth mawr ac agwedd benderfynol.

"Roedd hi bob amser mor ddiolchgar ac wedi'i chyfareddu sut y gallai'r staff ymdopi â'r pwysau a bod mor garedig a thrugarog wrth gynnig triniaeth iddi."

Pan ymwelodd teulu Brenda â staff ar Ward Bromfield i fynegi eu diolchgarwch wyneb yn wyneb, roeddent wedi'u plesio'n fawr i glywed bod Metron Melissa Hewlett yn cofio nyrsio Brenda yn ystod ei chyfnod ar y ward.

Ychwanegodd Jeanne: "Rydym ni'n teimlo bod angen i ni roi gwybod i bawb pa mor ddiolchgar ydym ni am bopeth a gafodd ei wneud dros Bren, a hefyd pa mor anhygoel oedd y staff ar Ward Bromfield gyda hi, a gyda ni, ar y diwedd.

"Roedd yn braf cael y cyfle i weld y staff ac i ddiolch iddynt unwaith eto am eu gofal a'r drugaredd a ddangoswyd tuag at Brenda a'r teulu ar adeg mor anodd."

Bu Brenda yn ddigon hael i roi £20,000 yn rhodd i Ward Bromfield, gan fynegi ei dymuniadau i offer meddygol ychwanegol gael ei brynu er mwyn helpu i wella darpariaeth gwasanaeth gynaecolegol ar draws Ysbyty Maelor Wrecsam, yn ogystal â helpu i roi gwelliannau ar waith yn ardal aros yr uned asesu.

Cafodd swm pellach ei roi'n rhodd i elusen annibynnol yr Uned Seren Wib hefyd.

Yn bwysig, hoffai'r teulu bwysleisio nad yw'r ffocws ar y rhodd ariannol ei hun, ond ar gydnabod y gofal a'r driniaeth a dderbyniodd Brenda gan staff a gwasanaethau.
Hoffai Awyr Las ddiolch o galon am y gymynrodd garedig a hael, y mae'r rhain oll o gymorth mawr i helpu gwasanaethau'r GIG yng Ngogledd Cymru i fynd yr ail filltir dros gleifion a'u teuluoedd.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am adael rhodd mewn ewyllys i Awyr Las: Elusen y GIG yng Ngogledd Cymru, e-bostiwch awyrlas@wales.nhs.uk