30.01.2026
Mae Ysbyty Bryn Beryl a Chyfeillion yr Ysbyty wedi dathlu cwblhad adnewyddiad yr Ystafell Ddydd ar Ward Llynfor gyda te prynhawn arbennig a gynhaliwyd ar ddydd Gwener 30 Ionawr 2026.
Gwnaethpwyd y gwelliannau’n bosibl diolch i rodd hael o dros £8,700 gan Gyfeillion Ysbyty Bryn Beryl. Mae’r cyllid hwn wedi cefnogi cyfres o welliannau hollbwysig, gan gynnwys lloriau, byrddau, cadeiriau, cypyrddau a llenni newydd.
Mae’r ystafell ddydd yn adnodd hollbwysig i Ward Llynfor, gan ddarparu lle hanfodol sy’n gwella lefel y gofal ar gael i gleifion. Caiff yr ystafell ei defnyddio at sawl diben, gan gynnwys sesiynau gweithgarwch ac ymarfer corff, gweithgareddau llesiant a digwyddiadau cymdeithasol. Bydd y gwelliannau’n galluogi staff i ehangu’r ystod o weithgareddau a gynigir, gan wella profiad, cysur a mwynhad y cleifion.
Wrth siarad am yr adnewyddu, dywedodd Rhona Jones, Prif Nyrs Lleol Bryn Beryl: “Mae’r ystafell wedi’i gwella’n sylweddol er budd y cleifion a’u teuluoedd sy’n ymweld. Caiff y gofod hwn ei ddefnyddio a’i werthfawrogi gan bawb; ein therapyddion, y cleifion, eu teuluoedd a’u ffrindiau. Mae’n rhoi’r cyfle iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau gyda’i gilydd, cael cinio gyda’i gilydd, neu hyd yn oed gael paned o de oddi wrth amgylchedd clinigol ger ymyl y gwely.”
Ychwanegodd Ffiona Adams, Gweithiwr Cefnogol Dementia sy’n gweithio’n agos â chleifion Bryn Beryl: “Ni fyddai’r uwchraddiadau hyn wedi bod yn bosibl heb haelioni’r Cyfeillion. Mae’r ystafell mor hanfodol i ysgogi a helpu adsefydlu ein cleifion, ac mae’r gwelliannau’n mynd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w lles. Rydyn ni i gyd mor falch o weld canlyniadau’r gwelliannau.”
Mae Cyfeillion Ysbyty Bryn Beryl yn parhau i chwarae rôl bwysig wrth gefnogi’r ysbyty a gwella cyfleusterau i gleifion, teuluoedd ac aelodau staff.