Chwaraewr pêl-droed o Ogledd Cymru yn cael llwyddiant rhyngwladol gyda chymorth cronfa elusennol yn dilyn trawsblaniad

15.10.26

Mae pêl-droediwr ifanc o Ogledd Cymru, a gafodd drawsblaniad aren a achubodd ei fywyd, yn dweud ei fod yn hynod ddiolchgar o fod wedi derbyn cymorth gan grŵp Cyfeillion Gofal Arennol yn Ysbyty Glan Clwyd – cronfa elusennol dan ofal Awyr Las, elusen GIG Gogledd Cymru. Fe wnaeth y cymorth hwn ei alluogi i deithio i'r Almaen fel rhan o Dîm Pêl-droed Trawsblaniadau Lloegr, a’u helpu i gipio Cwpan y Byd am y tro cyntaf erioed ym mis Medi 2026.

 

Derbyniodd Harry Lockley, sy'n 24 oed ac yn byw yn Nhywyn, ddiagnosis o syndrom Alport pan oedd yn 5 oed a bu'n byw bywyd cymharol normal nes iddo gael diagnosis o fethiant yr arennau yn 21 oed. Cafodd driniaeth dialysis peritoneol am chwe mis cyn derbyn yr alwad ffôn a newidiodd ei fywyd ym mis Hydref 2023, pan glywodd bod aren addas ar gyfer trawsblaniad ar gael iddo.

 

Wrth ddisgrifio’r foment, dywedodd Harri mai honno oedd "yr alwad ffôn orau erioed".

 

Ar y pryd, roedd Harry yn chwarae pêl-droed yn lled-broffesiynol, ond nid oedd yn siŵr iawn beth fyddai’r sefyllfa yn y dyfodol yn dilyn ei drawsblaniad. Felly, cysylltodd cariad Harry â swyddfa chwaraeon trawsblaniadau i holi a oedd unrhyw gymorth ar gael er mwyn i Harry fedru adennill ei ffitrwydd a chwarae pêl droed unwaith eto.

 

Roedden nhw wrth eu bodd pan gawsant ymateb i'r e-bost gan Daley Cross, rheolwr tîm pêl-droed trawsblaniadau Lloegr.  Derbyniodd Harry wahoddiad i fynychu sesiynau hyfforddi ac i ymuno â'r tîm ar gyfer Cwpan Pêl-droed y Byd Trawsblaniadau cyntaf yn yr Eidal yn 2024.

 

Ers hynny, mae Harry wedi mynd o nerth i nerth. Mae wedi helpu Lloegr i ennill Pencampwriaeth Pêl-droed Trawsblaniadau Ewrop yn 2025, Pencampwriaeth y Pedair Gwlad ym mis Mai 2026, ac yn fwyaf diweddar, Cwpan Pêl-droed y Byd Trawsblaniadau yn Frankfurt ym mis Medi 2026, pan gipiodd Lloegr y tlws am y tro cyntaf. Curodd Lloegr Sbaen 5-1 yn y gêm derfynol i ddod yn bencampwyr y byd.

 

"Mae'r tîm mor arbennig; mae'n unigryw,”meddai Harry. “Rwyf mor ddiolchgar i fod yn aelod – ac mae’r cwbl wedi seilio ar godi ymwybyddiaeth o roi organau ac ysbrydoli eraill."

 

Derbyniodd Harry gefnogaeth ariannol er mwyn teithio i dwrnamaint Cwpan y Byd yn Frankfurt gan Awyr Las drwy’r gronfa Cyfeillion Gofal Arennol.

 

Dywedodd Dyfed Jones, Cadeirydd Pwyllgor Cronfa Elusennol Awyr Las: “Rydym yn falch iawn o fod wedi gallu cefnogi Harry gyda’r costau teithio ar gyfer y digwyddiad arbennig hwn - mae hwn wedi bod yn brofiad gwych, mae’n amlwg, gan fod y tîm wedi ennill Cwpan y Byd.

 

“Mae hyn yn destament i’w wydnwch a’i benderfyniad ers iddo dderbyn ei drawsblaniad. Mae’n ysbrydoliaeth i eraill yng Ngogledd Cymru a thu hwnt. Da iawn Harry a’r tîm i gyd.”  

 

Mae Cyfeillion Gofal Arennol yn gweithio’n agos gyda gwasanaeth arennol Ysbyty Glan Clwyd i gefnogi cleifion drwy brosiectau a gweithgareddau, sy’n canolbwyntio ar y claf, sydd yn gwella profiad pobl sy’n byw gyda chlefyd yr arennau. Mae aelodau pwyllgor y gronfa ei hun yn cynnwys cleifion arennol a’u perthnasau, gan sicrhau bod y gefnogaeth elusennol yn cael ei llywio gan brofiad bywyd go iawn.

 

Os hoffech chi gefnogi’r gronfa, gallwch gysylltu ag Awyr Las ar awyrlas@wales.nhs.uk

 

Gallwch hefyd roi ar-lein drwy dudalen JustGiving y Cyfeillion Gofal Arennol: https://www.justgiving.com/campaign/forc