Neidio i'r prif gynnwy

Beicwyr gwirfoddol 'rhyfeddol' sy'n dosbarthu llaeth y fron a gyfrannwyd yn 'achub bywydau babanod cyn-amserol' medd nyrs newydd-enedigol

20.09.2023

Mae criw o feicwyr gwirfoddol ymroddedig, sy'n dosbarthu llaeth y fron a roddwyd ar gyfer  babanod cyn-amser, yn achub bywydau yn ôl uwch nyrs.

Aeth dau o wirfoddolwyr â chalonnau mawr o Feiciau Gwaed Cymru i uned newydd-enedigol Ysbyty Glan Clwyd i ddangos eu beiciau a siarad am y gwaith maen nhw'n ei wneud.

Yn ogystal â nadreddu trwy Ogledd Cymru a thu hwnt i gasglu a dosbarthu cynhyrchion gwaed, mae  beicwyr fel Phil Hackney a David Dean yn gollwng ac yn casglu meddyginiaethau a llaeth wedi ei roi o’r fron hyd yn oed.

Mae'n hanfodol i fabanod cyn-amserol frwydro yn erbyn haint a rhoi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd iddynt.

Roedd Julie Grocott, uwch nyrs staff ar uned y newydd-anedig, yn llawn canmoliaeth i wirfoddolwyr megis Phil a David sy'n helpu i'w gyflwyno i famau ifanc a'u babanod.

Gwasanaeth Newyddenedigol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

Dywedodd: "Mae'r bobl hynny sy'n reidio’r beiciau gwaed yn wirfoddolwyr ac mae'n eithaf anhygoel beth maen nhw'n ei wneud i ni. Yn ein hardal ni mae 30% o'u  gwaith yn cludo llaeth y fron.

"Yn yr ychydig ddyddiau cyntaf ar ôl genedigaeth gyn-amserol gall fod yn anodd i famau gynhyrchu eu llaeth y fron eu hunain ac ni all rhai gynhyrchu llaeth, felly mae argaeledd llaeth gan roddwr yn tynnu'r pwysau oddi arnynt."

Mae llaeth y fron yn cael ei storio a'i rewi gan famau sy’n rhoddwyr. Yna mae gwirfoddolwyr Beiciau Gwaed Cymru yn ei gasglu ac yn mynd ag ef i'r banc llaeth yng Nghaer.

Yna mae'n pastiwreiddio ac ail rewi’r llaeth, yn barod i’r beicwyr caredig ei gludo i ble bynnag y mae ei angen.

Gall unedau babanod newydd-anedig fel Glan Clwyd archebu cyflenwadau ar gyfer mamau babanod cyn-amser nad ydynt efallai'n cynhyrchu eu llaeth eu hunain eto oherwydd genedigaeth gynnar eu plentyn.

"Doeddwn i ddim yn disgwyl mynd i'r ysbyty a gadael gyda ffrind" - Bachgen a fethodd noson prom ei ysgol a gwyliau gyda'i deulu oherwydd anaf yn canmol y gofal a gafodd yn Ysbyty Gwynedd - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

"Mae gennym ni rai mamau ar yr uned sydd wedi derbyn llaeth rhoddedig ac maen nhw'n ei gyfrannu eu hunain," meddai.

"Mae pobl yn gwneud hyn oherwydd eu bod nhw eisiau gwneud hynny. Nid oes unrhyw fudd ariannol i unrhyw un sy'n gysylltiedig. Maen nhw'n ei wneud oherwydd eu bod nhw'n teimlo mai dyna'r peth iawn i'w wneud."

Nid yn unig mae llaeth y fron yn ffynhonnell hanfodol o faeth ar gyfer babanod cyn-amser, mae'n feddyginiaeth naturiol sy'n eu hamddiffyn rhag clefyd.

"Dyma'r bwyd mwyaf arferol ar gyfer babanod newydd-anedig," esboniodd Julie. "Mae'n amddiffyn rhag haint oherwydd ei fod yn llaeth byw ac ni all unrhyw fath arall o laeth ei ddisodli. Mae'n llythrennol yn achub bywydau."

Un o'r cyflyrau y mae'n eu gwarchod yn ei erbyn yw enterocolitis necroteiddio, haint difrifol o'r coluddyn a all fygwth bywyd.

Ychwanegodd: "Yn y dyddiau cyntaf ar ôl geni babi cyn-amserol gall fod yn anodd i famau gynhyrchu llaeth. Felly mae rhoi llaeth y fron yn helpu i newid y microbïom ym mherfedd y babi."

Mae microbiomau yn organebau naturiol sy'n byw y tu mewn i'n cyrff. Gall anghydbwysedd arwain at glefyd ac mae llaeth y fron yn feddyginiaeth ataliol wych.

Interniaid lleol i ddysgu sgiliau newydd yn sector cyhoeddus Sir y Fflint - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

Cred Julie nad yw rhai mamau yn credu eu bod nhw'n gallu cynhyrchu llaeth y fron eu hunain ond mae'r rhan fwyaf o ferched yn gallu gwneud hyn gyda chefnogaeth pobl o'u cwmpas - ac os yw cymdeithas yn eu hannog i wneud hynny.

Mae ymchwil hefyd wedi dangos bod bwydo ar y fron yn gostwng risg mam o ganser yr ofari a'r fron, yn ogystal â llosgi tua 500 o galorïau y dydd.

Dywed Unicef y byddai'r GIG yn arbed £50m bob blwyddyn, dim ond drwy ostyngiad mewn salwch plentyndod, pe bai cyfraddau bwydo ar y fron yn cynyddu.

Esboniodd Julie sut nad yw'r hwb i'r system imiwnedd a ddarperir gan laeth y fron yn dod i ben pan fydd plant yn rhoi'r gorau i'w dderbyn.

"Mae derbyn llaeth y fron yn gosod y dôn a, gobeithio, bydd y babanod hyn yn parhau gyda llaeth y fron yn y dyfodol," meddai. "Po fwyaf sydd ganddyn nhw, gorau oll.

"Yn ddiweddarach mewn bywyd rydym yn llai tebygol o gael heintiau'r frest, heintiau wrinol, heintiau'r gwaed, heintiau'r glust ac rydym yn llai tebygol o gael gastroenteritis os ydym yn derbyn llaeth y fron fel babi.

"Pan rydych yn gweld merched yn mynd o amau a allan nhw gynhyrchu llaeth i gynhyrchu llaeth i'w babanod mae o mor foddhaol."

Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk)