25.06.2026
Heddiw mae'r Bwrdd wedi cymeradwyo buddsoddi cylchol ychwanegol o hyd at *£6.6m ar gyfer meddygon, nyrsys, a gweithwyr cymorth gofal iechyd parhaol ar draws ein Tair Adran Achosion Brys. Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn lleihau ein dibyniaeth bresennol ar staff banc, locwm ac asiantaeth, gan sicrhau bod gennym weithlu sefydlog, medrus, sydd â'r adnoddau digonol er mwyn rheoli galw'n ddiogel, cynnig asesiadau a thriniaeth sy'n fwy prydlon, ac i gynnig gofal urddasol.
Yn hollbwysig, bydd hefyd yn helpu i wella morâl a lles ein staff diwyd yn yr Adran Achosion Brys, sy'n wynebu lefelau uchel o orflinder a lludded o ganlyniad i'r pwysau sylweddol a chyson maent yn ei wynebu o ddydd i ddydd. Rwyf am dalu teyrnged i'w hymrwymiad diwyro i gynnig y gofal gorau posibl i'n cleifion mewn amgylchiadau sy'n hynod heriol. Mae'r Bwrdd yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i wneud popeth o fewn ei allu i'w cefnogi.
Bydd y buddsoddiad hanfodol hwn yn helpu i sefydlogi ein Hadrannau Achosion Brys, wrth i ni barhau i weithio gyda phartneriaid ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol i fynd i'r afael â heriau isorweddol llif cleifion cyfyngedig a chapasiti cyfyngedig, sy'n parhau i fod y prif resymau dros amseroedd aros hirfaith, oedi wrth drosglwyddo rhwng ambiwlansys, a gorlenwi yn ein Hadrannau Achosion Brys.
Mae’r penderfyniad wedi cael ei wneud yn dilyn ystyried achos busnes manwl, sydd wedi’i ddatblygu dros y misoedd diwethaf, sy’n ystyried cynaliadwyedd ein trefniadau staffio presennol. Ni fydd y buddsoddiad hwn ar ei ben ei hun yn datrys yr holl heriau yn ein Hadrannau Achosion Brys. Fodd bynnag, mae’n alluogydd hollbwysig o ran gwella’r system ehangach.
Carol Shillabeer - Prif Weithredwr
*Mae hyn yn cynnwys £2.7 miliwn a oedd wedi cael ei chynnal mewn cronfeydd wrth gefn, yn amodol ar gwblhau’r Achos Busnes ar gyfer yr Adran Achosion Brys, ynghyd â £3.9 arall a gymeradwywyd yn ystod cyfarfod y Bwrdd ar 25 Mehefin 2026.