Neidio i'r prif gynnwy

Strategaethau ar Gyfer Materion Synhwyraidd

Chi yw arbenigydd eich plentyn ar ei anawsterau synhwyraidd. Gallwn eich helpu chi, a'ch arwain ymhellach ond yn y pen draw, bydd yr holl gyngor yn seiliedig ar eich arsylwadau a'ch profiad o broblemau synhwyraidd eich plentyn. Fe welwch eich bod yn naturiol wedi mabwysiadu llawer o'r strategaethau a gyflwynir yma trwy broses o brofi a methu ac o bosib eithrio. Nid yw'r un ohonynt yn dechnegau arbenigol ac ni fyddant yn niweidio eich plentyn os ydych yn eu defnyddio'n anghywir. Os nad yw techneg strategaeth yn gweithio o fewn ychydig wythnosau, rhowch y gorau i'w defnyddio.

Mae'r strategaethau'n canolbwyntio ar eich cynorthwyo chi a'ch plentyn i fynd i'r afael â heriau synhwyraidd dyddiol - nid yw'r rhain wedi eu dylunio i newid system synhwyraidd eich plentyn.

Yma rydym wedi casglu gweithgareddau, ymarferion a strategaethau a all helpu eich plentyn. Mae nifer wedi eu casglu i un llyfryn y gallwch gyfeirio ato a gynhyrchwyd gan Therapydd Galwedigaethol Arbenigol Niwroddatblygiadol.

Mae nifer o fideos ar-lein hefyd sy'n rhoi cyngor da a gallwch gael mynediad atynt ar ein tudalen Fideos ac Adnoddau Synhwyraidd ar-lein.

Mae'n anodd cynnig gwybodaeth gyffredinol wrth drafod materion synhwraidd eich plentyn ond dyma ychydig o arweiniad sylfaenol:

Dymunwyr Synhwyraidd
I blant sy'n dymuno profi mewnbynnau synhwyraidd penodol yn gyson, mae'n well eu bod yn cael profiad o'r teimlad y maent yn ei ddymuno a cheisiwch eu hannog i wneud hyn gymaint ag y dymunant ond mewn ffordd ddiogel a chymdeithasol/briodol i oedran. Os oes angen iddynt gnoi, er enghraifft, chwiliwch am bethau sydd wedi'u cynllunio i gael eu cnoi i leihau'r posibilrwydd y bydd yn tagu arno a sicrhau eu bod yn briodol i'w hoedran (e.e. defnyddio chewelry, ciwbiau rhew, gwm cnoi, brws dannedd ac ati, yn lle dwmi os yw'n blentyn hŷn). Os ydych yn gwybod ei fod am fod mewn sefyllfa ble mae angen iddo fod yn dawel ei feddwl, yna gwnewch waith synhwyraidd dwys gyda'r plentyn cyn y gweithgaredd. Bwydo'r systemau sydd angen eu bwydo.

Cyfathrebu
Os gallwch, cyfathrebwch yn agored gyda'ch plant. Ceisiwch egluro beth yr ydych am ei wneud a phryd, beth y gallai ei gynnwys - gofynnwch i'r plentyn os gall feddwl am rywbeth a fyddai'n gymorth iddo ddelio gyda'r sefyllfa. Wedyn, trafodwch y profiad.  Rhowch wybod eich bod yn ymwybodol ei fod yn anodd iddo.

Peidiwch â Gorfodi
Mae'n bwysig bod eich plentyn yn rheoli ei lif synhwyraidd i atal rhag gorlwythiad a dychryn eich plentyn. Dylid gofyn am ganiatâd ganddo cyn ennyn dechrau chwarae gêm a allai fod yn fygythiol iddo (chwarae sgarmes er enghraifft) a rhoi allweddair iddo ddweud pan fydd wedi cael digon. Os oes rhaid i chi afael yn eich plentyn yna rhybuddiwch ef eich bod am wneud rhywbeth a thrafodwch y mater - rhowch amser iddo ymateb. Peidiwch â gorfodi mewnbwn synhwyraidd arno heb ganiatâd.

Tasgau Cymhelliant
Weithiau bydd plentyn yn rhoi sioc i chi a gwneud gweithgareddau na fyddech yn disgwyl iddo ei wneud oherwydd ei hanes synhwyraidd. Yn aml gall meddwl am ganlyniad y gweithgaredd ddiystyru'r anawsterau ar y llwybr synhwyraidd tuag at gyflawni'r gweithgaredd, er enghraifft, gallai goresgyn ofnau cydbwysedd a symudiad trwy fynd ar drên sgrech gynyddu hunanhyder y plentyn a'i safle mewn grŵp o gyfoedion, neu oresgyn problemau cyffwrdd i allu gwneud bara blasus.

Dim Esgus am Ymddygiad Gwael
Beth bynnag yw anghenion synhwyraidd eich plentyn, nid oes esgus dros ymddygiad sy'n achosi niwed i eraill megis brathu, crafu, taro a chicio. Rhaid mynd i'r afael â'r problemau ymddygiad hyn a rhaid defnyddio dull ymddygiadol. Gellir dysgu'r ymddygiadau hyn yn gyflym iawn ac ni fydd delio â'u hanghenion synhwyraidd yn effeithio ar y rhain os ydynt wedi ymwreiddio.

Dewiswch eich brwydrau
Mae'n bwysig eich bod yn stopio eich plentyn.

Dogefnnau defnyddiol:
Torri gwallt synhwyraidd
Brwsio gwallt synhwyraidd
Golchi gwallt synhwyraidd
Torri ewinedd synhwyraidd
Dillad synhwyraidd
Gweithgareddau Synhwyraidd
Anhawster synhwyraidd
Modyliad synhwyraidd
Cwsg Synhwyraidd
Cyflwyniad synhwyraidd