Yma fe welwch chi:
Rydyn ni'n defnyddio canllawiau sydd wedi cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ein rhaglenni cyfalaf. Pan fydd manylion a gwybodaeth ar gael am ein rhaglenni cyfalaf, byddan nhw'n cael eu cyhoeddi ar ein gwefan.
Mae'r cyflogau'n cael eu cytuno â'r graddfeydd tâl Agenda ar gyfer Newid yng Nghymru.
Bydd Llawlyfr Gweithdrefn BIPBC ar gyfer Rheoli Prosiectau Cyfalaf yn cael ei ddefnyddio i reoli gwariant cyfalaf sydd â gwerth cyfalaf dros £1miliwn. Mae'n cael ei ddefnyddio ar y cyd â'r cyhoeddiadau perthnasol, ac yn benodol mae'n rhaid i Fuddsoddiadau Cyfalaf gyd-fynd â Chanllawiau Buddsoddi mewn Seilwaith GIG Cymru.
Mae Adendwm Llawlyfr Gweithdrefn BIPBC ar gyfer Rheoli Prosiectau Cyfalaf yn cael ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau llai sydd â gwerth cyfalaf rhwng £25,000 a £1miliwn.
Mae rhagor o wybodaeth am brosesau caffael a thendro BIPBC ar gael yn Rheolau Sefydlog a Chyfarwyddiadau Ariannol y Bwrdd Iechyd.
Mae manylion contractau yn y DU sy'n cael eu tendro ac sy'n werth dros £25,000 yn cael eu hysbysebu ar wefan Llywodraeth Cymru GwerthwchiGymru www.gwerthwchigymru.gov.uk.
Mae contractau sydd werth mwy na throthwyon caffael cyfredol yr UE yn cael eu hysbysebu drwy Gyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (OJEU). Y trothwy ar gyfer contractau Cyflenwi a Gwasanaethau ydy £118,133 ac yna £4,551,413 ar gyfer contractau Gwaith. Y llwybr caffael ar gyfer contractau Gwaith ar y trothwy hwn ydy drwy'r Fframwaith Design4Life.