Neidio i'r prif gynnwy

Tommy'r peintiwr yn ymateb â gwên i'r ystrydebau ar ôl gwasanaethu'r Bwrdd Iechyd am 50 mlynedd

27.11.2023

Mae un o gymeriadau poblogaidd Ysbyty Glan Clwyd wedi peintio'r wal olaf wedi dros 50 mlynedd yn sirioli bywydau cydweithwyr a chleifion.

Fe wnaeth Tommy Stone, oedd yn beintiwr ac addurnwr, orffen gweithio wedi 50 mlynedd a phedwar mis, ac yn ystod y cyfnod hwnnw, llwyddodd i godi gwên mor aml ag y byddai'n codi ysgol tra bu'n gwasanaethu'n ymroddgar yn yr ysbyty.

Ger bron dwsinau o gydweithwyr, ffrindiau a pherthnasau, cafodd Tommy, a oedd yn amlwg yn teimlo'n emosiynol, deyrngedau gan ei reolwyr a'i gydweithwyr, yn cynnwys cyfarwyddwr gweithrediadau Cymuned Iechyd Integredig (IHC) y Canol - a gan Dyfed Edwards, Cadeirydd y Bwrdd Iechyd.

Ond er ei fod yn dipyn o gymeriad, roedd Tommy yn ddiymhongar ac ni wyddai beth i'w ddweud ar ôl clywed eraill yn mynegi cymaint o hoffter tuag ato.

Dywedodd: “Doeddwn i ddim yn disgwyl hyn. Mae'n gwneud i chi deimlo'n emosiynol oherwydd nid ydych chi'n sylweddoli fod pobl yn malio.”

Fe wnaeth Dyfed Edwards, cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, adleisio teimladau Tommy.

Mae cydnabod Kara fel Nyrs y Frenhines yn profi ei bod yn 'fetron o safon' - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

Dywedodd: “Rwy'n teimlo'n emosiynol oherwydd nid wyf i'n adnabod neb arall sydd wedi mynd ati mor ymroddgar i wneud cymaint o waith, ddiwrnod ar ôl diwrnod ac wythnos ar ôl wythnos, .

“Bydd pobl yn dweud ei fod yn gymeriad rhagorol yn ogystal â gweithiwr da. Mae cyfraniad o'r fath, ar y lefel honno, yn gwneud gwahaniaeth er gwell i'r gweithlu ac i'r bobl hynny rydym yn eu gwasanaethu.

“Dymunaf ddiolch yn ddiffuant i Tommy am fod mor ymroddgar, a dymuniadau gorau iddo yng ngham nesaf ei fywyd.”

Cychwynnodd Tommy fel prentis peintiwr ar 9 Gorffennaf 1973, pan yn 16 mlwydd oed, yn Ysbyty Brenhinol Alexandra yn y Rhyl. Dim ond £8 yr wythnos oedd ei gyflog cyntaf.

Cwblhaodd ei brentisiaeth yn 1977 a gweithiodd am dair blynedd arall yn Ysbyty Brenhinol Alexandra, nes agorodd Ysbyty Glan Clwyd yn 1980.

Gofynnwyd iddo'n wreiddiol i fynd i'r ysbyty newydd i gwblhau tasgau peintio bychan, ond bu yno am 43 mlynedd arall.

Yn Ysbyty Glan Clwyd, daeth yn adnabyddus am ei allu i wneud i gydweithwyr a chleifion yno wenu - cafodd nifer fawr o ffrindiau yn sgil y ddawn hon.

Un ohonynt oedd Alyson Constantine, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Cymuned Iechyd Integredig y Canol erbyn hyn. Fe wnaeth hi gwrdd â Tommy am y tro cyntaf 39 mlynedd yn ôl pan oedd hi'n wyddonydd ifanc yn cychwyn ei gyrfa.

Sesiynau profi yn mynd o'r clinig ac i'r gymuned fel rhan o'r ymgyrch i drechu HIV - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

Wrth siarad â Tommy yn y digwyddiad a gynhaliwyd ddydd Gwener, dywedodd Alyson: “Pan gychwynnais yn 1983, byddai pobl fel Tommy yn llwyddo i sicrhau bod y diwrnod, y sesiwn neu'r sifft yn brofiad llawer iawn gwell.

“Pan fyddwn i'n crwydro i lawr y coridor, byddech chi a Brynle yn smalio bod yn brysur  - a 39 mlynedd wedi hynny ac rydych chi…”

Rhoddodd Tommy ei big i mewn a dywedodd, “…yn dal yn smalio…” ac fe wnaeth pawb rholio chwerthin - yna gwaeddodd un cydweithiwr, “mae'r un brws gynno fo o hyd”, a chafwyd mwy fyth o chwerthin.

Roedd yn deyrnged weddus i rywun oedd wedi gweithio mor ddiwyd ond hefyd wedi llwyddo i sirioli'r bobl hynny oedd o'i gwmpas.

Cafodd Tommy blac crisial i nodi ei gyfnod yn gwasanaethu'r GIG a darllenwyd llythyr gan y Brif Weithredwraig newydd, Carol Shillabeer, yn ei longyfarch am ei "yrfa ymroddgar" yn y GIG yng Ngogledd Cymru.

Parhaodd: “Ar ôl cyfrannu mwy na 50 mlynedd i'ch GIG lleol, rydych yn sicr o fod yn unigryw.

“Rwy'n gwybod eich bod wedi gweld cymaint o newidiadau yn digwydd dros y blynyddoedd ac rwy'n gobeithio'n arw y byddwch yn ymfalchio yn y cyfraniad a wnaethoch chi.”

Gan gyfeirio at agweddau gorau ei gyfnod yn gweithio yn yr ysbyty, dywedodd Tom: “Cael cwrdd â phobl hyfryd oedd y profiad gorau.

“Byddwch yn cwrdd â chymaint o gymeriadau gwahanol yn ystod eich oes, a byddant yn dweud ac yn gwneud cymaint o bethau doniol. Mae pob diwrnod wedi bod yn wych a dweud y gwir.

“Mae gweithio mewn ysbyty fel bod yn rhan o gymuned fechan - mae'n deulu bach. Ni chewch chi brofiad felly mewn cwmni preifat.

“Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb am roi cymaint i mi ac mae gweld cymaint o bobl yn bresennol wedi bod yn brofiad emosiynol iawn.”

Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk)